Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr yn argymell dogni bwyd er mwyn sicrhau iechyd, cyfartaledd a gwedduster

3 Ebrill 2020

Image of fresh fruit and vegetables at a market

Mae’r Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, wedi cyd-ysgrifennu llythyr i Brif Weinidog y DU, yn ei argymell i gyflwyno dogni bwyd yn syth er mwyn osgoi bod y DU yn brin o gyflenwadau ffrwythau a llysiau yn sgîl pandemig y Coronafeirws.

Mae’r llythyr, a ysgrifennwyd ar y cyd â’r Athro Tim Lang o Brifysgol Llundain a’r Athro Erik Millstone o Brifysgol Essex, yn rhybuddio bod llawer o’r bwyd ffres y mae’r DU yn dibynnu arno’n dod o Sbaen a’r Eidal, y ddwy wlad Ewropeaidd y mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio arnynt fwyaf.

Mae’r arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai tua 8.4 miliwn o bobl y DU gael llai o fwyd sydd ei angen arnynt a bydd banciau bwyd yn methu ymdopi â’r galw newydd. Maent hefyd yn argymell ystyried goblygiadau’r ffaith y bydd mwy o bobl yn bwyta gartref, oherwydd bod bwytai a chaffis wedi cau.

Mae’r llythyr yn galw ar y llywodraeth i:

  • Gyflwyno cynllun dogni bwyd ar sail iechyd, yn seiliedig ar Eatwell Plate Iechyd Cyhoeddus Lloegr a manteisio ar arbenigeddau’r gweinyddiaethau datganoledig a disgyblaethau perthnasol.
  • Adolygu opsiynau’n gyflym i wneud yn siŵr bod pobl sydd ar incymau isel yn cael digon o arian i fforddio deiet o safon ddigonol, neu gyflwyno cynllun talebau cenedlaethol y gellir eu hamnewid am fwyd maethlon, fel ffrwythau a llysiau.
  • Gwneud yn siŵr y bydd modd dosbarthu bwyd maethlon i’r rheiny sy’n ymneilltuo neu sydd dan gwarantîn, ac y gwneir hynny.
  • Cyhoeddi y bydd y Cynllun Dogni Bwyd newydd hwn yn agored, yn gyfartal ac yn seiliedig ar anghenion iechyd, gan gyfrif am oed, incwm ac agoredrwydd i niwed, a bydd hwn ar waith ar draws y DU.
  • Diwygio’r Bil Amaethyddiaeth, sydd dan sylw’r Senedd ar hyn o bryd, i gynnwys cymal newydd i wneud yn siŵr y bydd pobl y Deyrnas Unedig yn cael eu bwydo mewn modd iachus, cyfartal a chynaliadwy

Rhannu’r stori hon