Ewch i’r prif gynnwys

Dathliadau’r flwyddyn nesaf a chyfeillgarwch Cymru-Tsieina

27 Mawrth 2020

Chinese new Year at the Senedd

Gwnaeth cartref Llywodraeth Cymru, y Senedd, groesawu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ar 29 Ionawr, gan arddangos cysylltiadau Cymru-Tsieina o ran busnes, diwylliant a’r byd academaidd.

Daeth cynrychiolwyr o bob cefndir, gan gynnwys nifer o staff o Sefydliad Confucius Caerdydd. Mwynheuon nhw gelfyddyd a barddoniaeth gan blant ysgol o Gymru, a chafodd yr arddangosfa hon ei threfnu gan y sefydliad i gynrychioli’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy wlad. Hefyd, cafodd gwesteion y cyfle i wylio Dawns liwgar ac adloniadol y Ddraig, sy’n rhan bwysig o ddiwylliant Tsieina yn ystod y Flwyddyn Newydd Leuadol. Mae dreigiau Tsieineaidd yn cynrychioli doethineb, pŵer a chyfoeth, a chredir eu bod yn rhoi lwc dda dros y misoedd i ddod.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a gwnaeth Cennad o Tsieina, Wen Chen, draddodi araith hefyd. Mynegodd y ddau eu cydymdeimlad â’r rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y Coronafeirws, a chynnig geiriau o gefnogaeth ac anogaeth. Hefyd, gwnaeth Band y Cymry Brenhinol berfformio’r gân Tsieineaidd, ‘Gwell Fydd Yfory’.

Rhannu’r stori hon