Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn darogan maint y plastigau y gall anifeiliaid eu bwyta

27 March 2020

Beaked whale

Am y tro cyntaf, mae tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datblygu ffordd o ddarogan maint y plastigau y mae gwahanol anifeiliaid yn debygol o’u bwyta.

Edrychodd yr ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol ar y cynnwys ym mherfeddion dros 2,000 o anifeiliaid er mwyn creu hafaliad syml i ddarogan eitem o blastig y gall anifail ei fwyta, yn seiliedig ar hyd ei gorff.

Yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Communications, maent yn sôn am sut gellir defnyddio hyd anifail i ddarogan maint y darn mwyaf o blastig y gall ei fwyta - ac roedd hyn tua 5% (ugeinfed) o faint yr anifail.

Gan fod y broblem gyda llygredd plastig yn gwaethygu, mae’r ymchwilwyr yn dweud ei bod yn hanfodol gallu cynnal asesiad cyflym o beryglon plastigau i wahanol rywogaethau ar draws y byd.

Gallai’r gwaith hwn hefyd helpu gwyddonwyr i fesur perygl llygredd plastig i ecosystemau a chyflenwadau bwyd - a’r perygl i iechyd pobl yn y pen draw.

Drwy bori drwy data sydd wedi’i gyhoeddi, daeth y tîm o hyd i blastigau oedd wedi’u bwyta gan famaliaid y môr a dŵr croyw, ymlusgiaid, pysgod ac infertebratau, o larfau pysgod 9mm o hyd i forfilod cefngrwm 10m o hyd.

Yn ystod eu hymchwil, daethon nhw o hyd i enghreifftiau brawychus o ba mor wael yw llygredd plastig - pibelli dŵr a photiau blodau mewn morfil gwyn, bagiau bananas plastig mewn môr-grwbanod gwyrdd a cetris dryll mewn morfil gylfinog True.

Ingested plastic graphic

Meddai Dr Ifan Jâms, un o brif awduron yr astudiaeth: “Ychydig iawn rydyn ni’n ei wybod o hyd am sut mae’r rhan fwyaf o anifeiliaid yn bwyta yn y gwyllt, felly mae’n anodd gwybod yn union faint o blastig y gallen nhw fod yn ei fwyta.

“Mae’r wybodaeth hon yn cynnig ffordd o ddechrau mesur pa mor ddifrifol yw’r broblem o ran llygredd plastig.

“Rydym yn gobeithio bod yr astudiaeth hon yn gosod sail ar gyfer cynnwys plastigau ‘nad oes modd eu bwyta’ mewn asesiadau risg byd-eang.

“Rydym hefyd yn gobeithio bydd y gwaith hwn yn arwain at asesiadau mwy cymhleth o faint o blastig a allai fod yn dod yn rhan o ecosystemau byd-eang a chyflenwadau bwyd.”

Meddai arweinydd y prosiect, yr Athro Isabelle Durance: “Mae pob un ohonom wedi gweld delweddau gofidus a thorcalonnus yn aml o anifeiliaid sydd wedi’u heffeithio gan blastig, ond nid ydym yn gweld llawer rhagor o sut mae anifeiliaid yn dod i gysylltiad â phlastig. Mae’r astudiaeth yn cynnig ffordd newydd o ddelweddu’r llu o achosion nad ydym yn eu gweld fel arfer.

“Er ein bod yn cynyddu ein dealltwriaeth o ble mae’r plastigau hyn yn cronni yn ecosystemau dyfrol y byd, dim ond drwy waith fel hyn y gallwn wybod pa anifeiliaid sy’n debygol o fod mewn perygl o ganlyniad i’w bwyta.

“Drwy waith fel hwn, rydym hefyd yn gallu deall faint o blastig sydd mewn gweoedd bwyd byd-eang neu fwyd dynol am ein bod yn gwybod maint cyffredinol y plastig sy’n debygol o gael eu bwyta gan sŵoplancton neu bysgod.

“Rydym yn sylweddoli bod ein hymchwil yn rhan o ymdrechion ehangach a bod mwy i’w wneud o hyd i fesur y peryglon a achosir gan ddarnau bach o blastig neu’r niwed y mae bwyta plastig yn ei achosi, ond rydym yn gobeithio bod y gwaith hwn yn helpu’r byd i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol gyda phlastig.”

Dywedodd yr ymchwilwyr bod angen gwneud rhagor o waith er mwyn edrych ar sut a ble mae anifeiliaid daearol yn bwyta plastig er mwyn darogan peryglon ehangach.

Rhannu’r stori hon

For more information, visit the Water Research Institute website.