Ewch i’r prif gynnwys

Yng Nghyflwyno Grŵp Gwirfoddolwyr Porth Cymunedol newydd

27 Chwefror 2020

Volunteers
The Community Gateway Volunteers Group

Mae ein gwirfoddolwyr bob amser yn awyddus i helpu'r tîm, a byddant yn rhedeg eu sêl cacennau cyntaf yn Adeilad Bute ar y 3ydd o Fawrth o 10yb!

Y flwyddyn academaidd hon, gwnaeth Josephine ac Andrea, llysgenhadon myfyrwyr Porth Cymunedol, gynllun i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gwirfoddoli gyda Porth Cymunedol. Trwy hyrwyddo'r sefydliad yn ystod Ffair Ffreshers, ynghyd â siarad â myfyrwyr mewn digwyddiadau yn Grangetown ac o amgylch y Brifysgol, mae nawr cyfanswm o saith myfyriwr yn rhan o'r prosiect sy'n gweithio gyda'r tîm yn rheolaidd. Nhw yw'r grŵp cyntaf o wirfoddolwyr fwy parhaol yn deillio o'r Brifysgol.

Prif nodau'r grŵp gwirfoddolwyr ar gyfer 2020 yw helpu i godi arian ychwanegol ar gyfer Pafiliwn Grange trwy amrywiol weithgareddau, fel trefnu sêl cacennau, cwblhau rhediad 5k/10k, a helpu gyda phacio bagiau mewn archfarchnadoedd lleol. Ar ben hynny, nod y grwpiau yw helpu yn ystod diwrnod agoriadol Pafiliwn Grange ar y 30ain o Ebrill, a llunio gweithgareddau hwyl i'w gwneud yn ystod y Lansiad.

Yn nodweddiadol, mae'r grŵp yn cwrdd unwaith bob pythefnos, a'r wythnos diwethaf roedd Josephine yn ddigon caredig i gynnal brunch hyfryd yn ei thŷ ar gyfer y grŵp. Agenda’r bore oedd crepes, tost Ffrengig Vegan, ffrwythau ffres a chynllunio’r sêl cacennaua fydd yn digwydd ar y 3ydd o Fawrth yn Adeilad Bute.

Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cymorth ac yn gyffrous i weld pa weithgareddau ychwanegol sydd ganddyn nhw ar y gweill ar gyfer y misoedd canlynol!

Rhannu’r stori hon