Ewch i’r prif gynnwys

Byw’r bregeth: adduned cynaliadwyedd Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd

4 Chwefror 2020

WaterEco

Mae’r Sefydliad Ymchwil Dŵr wedi penderfynu ‘byw’r bregeth’ a gwneud adduned cynaliadwyedd er mwyn lleihau ei effaith amgylcheddol ac ysbrydoli eraill.

Cynaliadwyedd sydd wrth wraidd ein hymchwil, ac rydym ni’n ymroddedig i sicrhau ei fod hefyd wedi’i wreiddio yn ein bywyd pob dydd yn y swyddfa.

Mae ein gofod yn fan lle gall ymchwilwyr a rhanddeiliaid gynnal cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ddirwystr. Rydym ni’n ymwybodol bod ein gweithgareddau’n cael effaith ar yr amgylchedd i amrywiol raddau, ac rydym am sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl i wella’n perfformiad amgylcheddol. Rydym ni’n gobeithio y bydd y fenter hon yn ysbrydoli eraill i wneud yr un modd.

Eleni, rydyn ni’n addunedu y byddwn ni’n:

  • Gwneud ein digwyddiadau a’n cyfarfodydd yn ddi-blastig

Mae ein grŵp ymchwil Plastig o’r ffynhonnell i’r sinc yn ymchwilio i lygredd plastig mewn amgylcheddau dŵr croyw o bersbectif sawl disgyblaeth. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i ymddygiad cynaliadwy yng nghyswllt defnydd o blastig, dylunio plastig mwy llesol i’r amgylchedd, ac ymchwilio i effaith bosibl mathau o blastig ar ecosystemau dŵr croyw.

Yn unol â’n gweithgareddau ymchwil ac ers i ni ymwneud ag ymgyrch Ail-lenwi Caerdydd, rydym wedi bod yn ofalus iawn i leihau swm y plastig un defnydd rydym ni’n ei ddefnyddio. Mae gan bob aelod o’n tîm botel ddŵr sy’n cael ei hailddefnyddio, ac mae cwpanau i’w hailddefnyddio bob amser ar gael yn y swyddfa.

Eleni, rydym ni’n addunedu i leihau ein defnydd o blastig untro ymhellach trwy ddefnyddio cyllyll a ffyrc i’w hailddefnyddio, a thrwy swmp-brynu. Mae eitemau wedi’u pecynnu’n unigol yn rhywbeth i’w gwrthod!

  • Darparu ciniawau llysieuol a fegan yn unig

Mae angen llawer o ddŵr ac ynni i gynhyrchu cig i’w fwyta. Rydym ni’n ymwybodol o ôl-troed dŵr cynnyrch amaethyddol ac yn ymroddedig i ddarparu prydau heb gig bob tro rydym ni’n archebu gwasanaeth arlwyo. Rydym ni’n gobeithio bydd gwasanaeth arlwyo’r Brifysgol yn cynnig mwy o opsiynau llysieuol a fegan yn y dyfodol.

  • Lleihau faint o ddŵr rydym ni’n ei ddefnyddio

Mae ein defnydd uniongyrchol o ddŵr y tu mewn eisoes wedi’i gyfyngu, ond byddwn ni’n sicrhau ein bod yn elwa o botensial llawn ein peiriant golchi llestri i arbed dŵr trwy olchi llwythi llawn yn unig a’i redeg yn y modd eco bob amser.

  • Lleihau’r ynni rydym ni’n ei ddefnyddio

Rydym ni’n ymroddedig i ddiffodd pob peiriant a golau yn y nos, ac i ddefnyddio’n peiriannau yn y modd arbed ynni i gyfyngu cymaint â phosibl ar ein defnydd o ynni.

Refillbottle
  • Lleihau teithio trwy annog fideogynadledda a chyfarfodydd ar-lein

Rydym am fanteisio ar dechnolegau newydd i leihau faint rydym ni’n teithio. Yn ein barn ni, mae modd cynnal y rhan fwyaf o gyfarfodydd ar-lein, felly rydym ni’n ymrwymo i leihau teithiau busnes lle bynnag y bo modd.

  • Cerdded i’r gwaith neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus

Byddwn ni’n annog pawb yn y tîm i gerdded, beicio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus, a byddwn ni’n sicrhau bod ganddyn nhw gyfleusterau digonol i storio cyfarpar teithio.

  • Lleihau ein gwastraff

Rydym eisoes yn sicrhau ein bod yn defnyddio papur wedi’i ailgylchu, ond rydym ni’n ymroddedig i leihau ein defnydd o bapur ac argraffu deunydd angenrheidiol yn unig. Gan barchu canllawiau’r Brifysgol, rydym hefyd yn cyfyngu ar wastraff bwyd trwy sicrhau bod unrhyw fwyd dros ben yn cael ei roi i eraill yn yr ysgol neu’n cael ei storio er mwyn i’n tîm ei fwyta.

  • Arbed, ailddefnyddio, ailgylchu!

Rydym ni’n ailgylchu cymaint â phosibl, o dopiau poteli i becynnau creision. Rydym hefyd yn ymroddedig i ailddefnyddio cynnyrch gymaint â phosibl. Lluniwyd ein gofod trwy ailddefnyddio ac uwchgylchu hen gelfi.

  • Defnyddio cyflenwyr lleol, ardystiedig a Masnach Deg

Rydym yn cynnig te a choffi i’n hymwelwyr yn rheolaidd, ond rydym ni’n ymwybodol o effaith gymdeithasol ac amgylcheddol bwysig eu cynhyrchu. Rydym am sicrhau ein bod yn eu cael gan gyflenwyr lleol, neu gan gyflenwyr ardystiedig a Masnach Deg pan na fydd opsiynau lleol ar gael. Rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gael llaeth wedi’i ddosbarthu’n lleol, gyda chymorth Ysgol y Biowyddorau.

Rydym ni’n cymryd rhan yn Effaith Werdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn Ysgol y Biowyddorau ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o leihau ein heffaith.

Rydym ni’n ymwybodol bod canllawiau’r Brifysgol weithiau’n gallu cyfyngu ar fentrau amgylcheddol, ond rydym yn falch o weld bod llawer o aelodau staff yn awyddus i sicrhau cynaliadwyedd. Ein gobaith yw y bydd ein hadduned ni yn annog eraill i leihau eu heffaith yn eu gweithle.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.