Ewch i’r prif gynnwys

Is-Ganghellor yn ymweld â’r Sefydliad Ymchwil Dŵr

28 Ionawr 2020

VCIsabelle
Yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr, yn cyflwyno gweledigaeth y Sefydliad i’r Is-Ganghellor.

Bu’r Athro Colin Riordan yn ymweld â’r Sefydliad Ymchwil Dŵr fis diwethaf i ddysgu mwy am y gwaith rydym ni’n ei wneud, a chwrdd â’n grŵp gyrfa gynnar.

I ddechrau’r ymweliad cafodd sgwrs gyda chynrychiolwyr o’r grŵp gyrfa gynnar am fentrau yn awr ac yn y gorffennol. Eglurodd y grŵp sut mae eu digwyddiadau, o nosweithiau ffilm i gyfresi seminarau, yn dod â myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol sy’n gweithio ar bynciau cysylltiedig â dŵr at ei gilydd. Amlygwyd bod cefnogaeth gan y Sefydliad Ymchwil, ar ffurf bwrsariaethau teithio ar gyfer cynadleddau neu leoliadau posibl, yn allweddol i ddatblygiad eu gyrfa. Amlygodd y grŵp hefyd mor falch oedden nhw o fod yn arwain ymgyrch Ail-lenwi Caerdydd – y mae’r Is-Ganghellor yn ei chefnogi – yn llwyddiannus, yn unol â Strategaeth Amgylcheddol y Brifysgol.

VCandEC
Colin Riordan, yr Is-Ganghellor, yn siarad â grŵp gyrfa gynnar y Sefydliad Ymchwil Dŵr.

Mae hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr dŵr yn elfen greiddiol o ymdrechion y Sefydliad Ymchwil Dŵr. Bu Sarah Brasher, Rheolwr Canolfan FRESH NERC GW4 ar gyfer Hyfforddiant Doethurol, a’r Is-Ganghellor yn trafod pwysigrwydd hyfforddi ymchwilwyr sydd â dealltwriaeth fanwl o’r ddisgyblaeth a gwybodaeth sy’n ddigon eang i fynd i’r afael â heriau dŵr cymhleth. Amlygodd Dr Michael Singer, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil, sut mae’r cymhwyster newydd rhyngddisgyblaethol MSc Dŵr mewn Byd sy’n Newid yn dilyn yr egwyddor hon, ac yn cyfuno persbectif sawl ysgol ar draws y gwyddorau naturiol, peirianneg a chymdeithasol.

Aeth yr Athro Isabelle Durance (Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil) a’r Dr Chris Hubbard (Swyddog Ymchwil ac Effaith) ymlaen i amlygu ymhellach pa mor allweddol yw gweithio rhyngddisgyblaeth wrth fynd i’r afael â heriau dŵr, trwy gyflwyno ein themâu ymchwil newydd. Yn dilyn ymlaen o hynny, bu Dr Adrian Healy yn trafod gyda’r Is-Ganghellor y gwaith ymchwil y bydd yn ei wneud fel Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI cyntaf Prifysgol Caerdydd. Bydd Dr Healy yn edrych ar her fyd-eang sut mae dinasoedd yn ymdopi gydag argyfwng dŵr, a bydd yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Prifysgol Namibia, un o brif bartneriaid rhyngwladol Prifysgol Caerdydd.

VCresearchers
Yr Athro Colin Riordan, yr Is-Ganghellor, yn trafod gyda Dr Adrian Healy, Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol a Dr Chris Hubbard, Swyddog Ymchwil ac Effaith yn y Sefydliad.

Mae gweithio ar y cyd ag academyddion y tu hwnt i Gaerdydd, ym Mhrifysgol Namibia, er enghraifft, yn rhywbeth rydym ni’n credu’n gryf ynddo. Yn fwy lleol, mae’r Sefydliad Ymchwil yn aelod o Gynghrair Diogelwch Dŵr GW4, a reolir gan Andy Schofield. Ar y cyd â Dr Rupert Perkins, bu Andy a’r Is-Ganghellor yn trafod sut mae’r bartneriaeth ranbarthol hon rhwng prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg yn ehangu cwmpas ac arwyddocâd ymchwil dŵr Caerdydd.

Er mwyn cael effaith lawn, mae angen i ymchwil academaidd gynnwys partneriaid o fyd diwydiant, y llywodraeth a chyrff anllywodraethol. Gan ddefnyddio esiampl Prosiect WISDOM yr UE, bu Dr David Crole, ein Rheolwr Partneriaethau, a Dr Tom Beach yn siarad â’r Is-Ganghellor am sut rydym ni’n gweithio gyda Dŵr Cymru ac eraill i roi sylw i heriau byd go iawn.

I gloi’r ymweliad, cafwyd trafodaeth agored gydag aelodau o’n Bwrdd Rheoli a’r Penaethiaid Ysgol yr Athro Ian Hall (Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd) a’r Athro Jim Murray (Biowyddorau) ynghylch pwysigrwydd strategol Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol, a sut maen nhw’n cydweddu â chryfderau disgyblaethol traddodiadol y brifysgol.

Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am sut rydym ni’n gweithio neu am unrhyw un o’r pynciau yn yr erthygl hon.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.