Ewch i’r prif gynnwys

Siaradwyr o fri'n ymuno ag arddangosiad catalysis

22 Ionawr 2020

Professor Duncan Wass and speakers from the 7th annual conference
Yr Athro Duncan Wass (dde) a siaradwyr o'r 7fed gynhadledd flynyddol

Bu arbenigwyr rhyngwladol o fyd busnes a'r byd academaidd yn helpu prif ganolfan catalysis y DU i ddathlu ei seithfed gynhadledd flynyddol.

Daeth y digwyddiad blaenllaw yn Sefydliad Catalysis Caerdydd ag arbenigwyr at ei gilydd i rannu syniadau a datblygiadau ym maes gwyddor newid cemegol.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys Nuria Lopez, Sefydliad Ymchwil Gemegol Catalonia; Glenn Sunley, Grŵp Ymchwil BP a Chloé Thieuleux o Brifysgol Lyon.

Cyflwynodd Angelika Brückner, o Sefydliad Catalysis Leibniz Ddarlith Goffa Dr Peter Williams.

“Roedd pedwar o'r chwe siaradwr allanol yn y digwyddiad eleni'n fenywod," dywedodd yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI). "Bydd ehangu ein hapêl, ein gwyddoniaeth a'n gwaith gyda diwydiant yn ffocws pwysig i CCI yn y blynyddoedd nesaf."

Ar ôl ei sefydlu gyda buddsoddiad cychwynnol o £2.8m gan Brifysgol Caerdydd, mae’r Sefydliad wedi datblygu meysydd ymchwil gan gynnwys ffotocatalysis, synthesis ynni adnewyddadwy, a thriniaeth ar ôl gwacáu, gan gynnal enw da byd-eang mewn dylunio catalyddion.

Dan arweiniad yr Athro Wass, bydd y Sefydliad yn symud i’w gartref newydd yng Nghyfleuster Ymchwil Drosiadol y Brifysgol ar Gampws Arloesedd Caerdydd yn 2021.

"Mae catalysis yn faes ymchwil bywiog sy'n hanfodol ar gyfer llawer o sectorau diwydiant ar hyn o bryd a bydd hyd yn oed yn fwy hanfodol wrth gyflwyno ymchwil drosiadol fydd yn galluogi twf glân," dywedodd yr Athro Wass.

"Bydd y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn rhoi'r modd i ni allu ehangu gwyddor catalysis, ein helpu i ymgysylltu'n well gyda diwydiant, cyllidwyr a llunwyr polisïau, gan ein caniatáu i ehangu ein haelodaeth i ymgysylltu gydag ymchwilwyr amlddisgyblaethol sy'n dod ag arbenigedd ategol a chyfleoedd."

Dywedodd siaradwr gwadd y Gynhadledd, yr Athro Glenn Sunley o BP, "Mae'r cyfarfod hwn yn amlygu’r amrywiaeth llawn ym  maes ymchwil catalysis, yn cynnwys cyfraniad pwysig ymchwilwyr i ddiwydiant.  Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda CCI ac yn ystyried y berthynas diwydiant-academaidd hon yn hanfodol i sbarduno arloesedd."

Ers 2014, mae CCI wedi codi dros £20 miliwn mewn incwm ymchwil ar draws 93 o grantiau (yn cynnwys £3 miliwn yn uniongyrchol o ddiwydiant) ac wedi cyhoeddi dros 800 o bapurau mewn cyfnodolion rhyngwladol yn cynnwys 16 yn Science neu Nature.

Nod ei strategaeth bum mlynedd newydd yw mai CCI fydd y prif sefydliad ymchwil rhyngwladol ar draws yr amrediad llawn o wyddoniaeth gatalytig, yn gweithio mewn partneriaeth agosach gyda diwydiant a chreu cydweithio rhyngddisgyblaethol i gynyddu incwm a chyflawni allbynnau, effaith a dylanwad.

Mae'r Sefydliad eisoes wedi sefydlu cynghreiriau strategol gyda Phrifysgolion sydd ag arbenigedd ategol, yn cynnwys Caerfaddon, Bryste, Queen's Belfast ac UCL. Roedd CCI yn allweddol wrth greu Canolfan Catalysis y DU, sy'n cyfuno arbenigedd o'r rhan fwyaf o brifysgolion y DU sy'n ymwneud â chatalysis.

I ddarllen mwy am weledigaeth 2020-2025 yr Athro Wass, ewch i'n Blog Cartref Arloesedd.

https://youtu.be/azICCIRKUcA

Rhannu’r stori hon

Mae’n cyfleuster arloesol yn cefnogi ymchwil sy’n arwain y byd yn y gwyddorau.