Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnodolyn rhyngwladol yn neilltuo rhifyn i dalu teyrnged i ysgolheictod ffeministaidd Athro o Gaerdydd

20 Ionawr 2020

Mae cyfnodolyn rhyngwladol wedi neilltuo rhifyn diweddar i dalu teyrnged i waith academydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Mae rhifyn Tachwedd 2019 o International Affairs yn dathlu ac yn ymgysylltu ag ysgolheictod ffeministaidd arloesol yr Athro Marysia Zalewski.  Mae’r Athro Zalewski yn addysgu ar raglenni Gwleidyddiaeth Ryngwladol israddedig ac ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Golygyddion gwadd yr adran arbennig, Well, what is the feminist perspective on international affairs?, lle mae cwestiynau sylfaenol ynghylch gwleidyddiaeth fyd-eang yn cael eu trafod, yw Helen M. Kinsella a Laura J. Shepherd.

Mae’r erthyglau yn y cyfnodolyn yn adeiladu ar waith Zalewski, ac yn parhau ar yr un trywydd trwy geisio canfod sut mae rhywedd yn gweithredu mewn rhai gofodau, sut mae disgyblaeth Perthnasoedd Rhyngwladol wedi llunio rhai naratifau a chreu eithriadau, a sut gallem ni ailfeddwl gwleidyddiaeth fyd-eang i osgoi ailadrodd yr un camgymeriadau, Yn y modd hwn, mae’r adran arbennig hon yn cwestiynu strwythurau a gwybodaeth hegemonaidd - yn ogystal â’r rhai y barnwyd eu bod wedi creu gwybodaeth o’r fath.

Yn eu cyflwyniad, mae Helen M. Kinsella a Laura J. Shepherd yn gosod yr olygfa.  Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd archwilio natur damcaniaethu, ac yn atgoffa’r darllenydd fod unrhyw ysgolheictod ffeministaidd, wrth natur, bob amser yn rhoi’r theori ar waith.

Mae Penny Griffin yn archwilio arferion rhywedd beunyddiol cyllid byd-eang.  Mae hi’n craffu ar pam maen nhw’n cael eu hystyried yn ‘niwtral’ a sut mae hynny’n effeithio ar sut mae benywod yn y sector ariannol yn cael eu trin, yn arbennig wedi’r argyfwng ariannol byd-eang.

Yng ngoleuni Gwobr Heddwch Nobel 2018, mae Maria Stern yn beirniadu ffrâm amlwg ‘treisio fel arf rhyfel’, sy’n aml yn fodd i ddeall ac archwilio sut mae ymgysylltu’n fwy cynhwysfawr â thrais rhywiol cysylltiedig â gwrthdaro.

Yn ei herthygl hithau, mae Elizabeth Pearson yn edrych ar ‘wrywdod tocsig’ trwy lens yr English Defence League, ac yn amlygu cwestiynau ynghylch gwrywdod, perthynas hynny â dynion, a sut mae termau fel ‘tocsig’ ac ‘eithafol’ yn gadael y batriarchaeth heb ei herio.

Mae Paula Drumond yn archwilio’r rhagdybiaethau amlycaf ynghylch trais rhywiol yn erbyn dynion mewn rhyfel.  Mae hi’n cwestiynu pam mae rhai mathau o drais yn cael eu rhywioli, a sut mae modd cynnwys dynion yn briodol fel dioddefwyr mewn ymdrechion i ddeall trais rhywiol.

Mae Sam Cook yn adleoli’r syniad o fethiant mewn perthynas â pholisi Cyngor Diogeledd y CU ar Fenywod, Heddwch a Diogeledd, gan archwilio’r gofodau y gall methiant eu creu yng nghyd-destun agenda ffeministaidd.

Mae Cristina Masters a Marysia Zalewski yn myfyrio ar y tybiaethau a gyflwynir yn yr adran arbennig a’u perthynas â damcaniaethu ffeministaidd ehangach ym maes Perthnasoedd Rhyngwladol.

Mae erthyglau o rifyn mis Tachwedd o’r cyfnodolyn ar gael i’w darllen ar wefan International Affairs.

Rhannu’r stori hon