Ewch i’r prif gynnwys

Prif Weinidog Cymru i draddodi araith ar y dydd pan fydd y DG yn gadael yr UE

17 Ionawr 2020

Mark Drakeford

Ar wahoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, yn traddodi araith allweddol ar y diwrnod pan fydd Cymru a’r DG yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth i’r Deyrnas Gyfunol adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar Ionawr 31, disgwylir i’r Prif Weinidog ddatgan egwyddorion allweddol tu ôl i berthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol.

Bydd y Prif Weinidog yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i’r materion allweddol yn ystod cyfnod nesaf Brexit, gan gynnwys masnach, perthnasau rhyngwladol a chyfansoddiad y DG.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y digwyddiad yma ar y cyswllt yma, fydd yn cael ei gynnal yn adeilad eiconig y Pierhead, Bae Caerdydd.

Rhannu’r stori hon