Ewch i’r prif gynnwys

Seminar llwyddiannus i athrawon

26 Hydref 2019

Carolyn Goodwin
Arweiniwyd y sesiwn hyfforddi gan Carolyn Goodwin.

Ddydd Sadwrn 19eg Hydref, cynhaliodd Sefydliad Conffiwsias Caerdydd gwrs hyfforddi yng Ngwesty’r Clayton i diwtoriaid Mandarin a ddaeth i Gymru fis Medi 2019.

Daeth tiwtoriaid Mandarin o ddau o sefydliadau Conffiwsias Cymru (Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) a’r Cyngor Prydeinig.

All the tutors
Mwynhaodd pawb yr hyfforddiant

Y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r hyfforddiant i diwtoriaid, a Sefydliad Conffiwsias Caerdydd sy’n ei drefnu.

Carolyn Goodwin, ymgynghorydd iaith i CILT Cymru cynt, arweiniodd yr hyfforddiant - mae hi’n athrawes brofiadol a phrif fyrdwn y sesiwn undydd oedd cynllunio gwersi a’r gwahaniaeth rhwng ystafelloedd dosbarth cynradd ac uwchradd.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am yr hyn a wnawn a sut y gallwch chi gymryd rhan.