Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan ymchwil iechyd meddwl flaenllaw yn dathlu 'degawd o ddarganfyddiadau'

5 Tachwedd 2019

Professor Sir Michael Owen and Professor James Walters
Yr Athro Syr Michael Owen a yr Athro James Walters

Mae un o ganolfannau blaenllaw'r byd sy'n cynnal ymchwil ynghylch y ffactorau sy'n sail i broblemau iechyd meddwl yn dathlu ei phen–blwydd yn 10 oed.

Mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg yn pontio hefyd o fod yn un o ganolfannau'r Cyngor Ymchwil Feddygol i un o ganolfannau Prifysgol Caerdydd, ac mae'r Athro James Walters yn cymryd yr awenau fel cyfarwyddwr, gan gymryd lle’r Athro Syr Michael Owen.

Sefydlwyd y Ganolfan yn 2009 fel canolfan gyntaf y Cyngor Ymchwil Feddygol yng Nghymru a chanolfan rhagoriaeth ar gyfer y DU, ac mae wedi gwneud cryn gynnydd o ran deall rhai o'r pethau sy'n achosi anhwylderau seiciatrig, niowroddatblygiadol a niwroddirywiol.

Mae llawer o'r ymchwil wedi canolbwyntio ar ffactorau risg geneteg ar gyfer anhwylderau fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, clefyd Alzheimer ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

At hynny, mae gwyddonwyr y Ganolfan wedi bod yn arloesol o ran astudiaethau ynghylch y modd y mae anhwylderau â goblygiadau pwysig ar gyfer y modd rydym yn gwneud diagnosis o anhwylderau meddyliol yn gorgyffyrdd, ac wedi nodi meysydd biolegol newydd fel targedau posibl ar gyfer triniaethau newydd.

Mae'r Ganolfan wedi cyhoeddi dros 1,900 o bapurau, ac mae ganddi dros 1,900 o gydweithriadau'n mynd rhagddynt gydag ymchwilwyr ar draws y byd.

Canfyddiadau arwyddocaol

2010canfod amrywiaethau geneteg prin sy'n cynyddu'r risg o ADHD
2013arwain astudiaeth ryngwladol wnaeth ddod o hyd i 11 genyn newydd sy'n gwneud pobl yn fwy agored i gael clefyd Alzheimer
2014wedi nodi 108 maes newydd ar y genom sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia
2015wedi nodi addaswyr geneteg yng nghlefyd Huntington
2016wedi canfod ffactorau sy'n cynyddu gwydnwch mewn pobl ifanc sydd â risg teuluol uchel o iselder
2018wedi cyhoeddi'r astudiaeth genomeg fwyaf ynghylch sgitsoffrenia, gan nodi 50 o loci ychwanegol
2019wedi canfod bod dileadau a dyblygiadau prin DNA yn gyfrifol am amrywiaeth eang o anawsterau datblygiadol mewn plant

Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu llwyddiannau'r Ganolfan – ac edrych ymlaen at y cynlluniau ar gyfer y degawd nesaf – ar 22 Hydref.

Yn ôl Syr Mike: "Bu'n 10 mlynedd wych, ac mae wedi bod yn ardderchog gweld cymaint o ganfyddiadau mewn ystod eang o anhwylderau seicolegol gwahanol.

Hoffwn gydnabod yn enwedig waith fy nghydweithwyr academaidd ardderchog niferus, a'n cefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Prifysgol Caerdydd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.Rydw i wrth fy modd bod yr Athro James Walters wedi'i benodi'n olynydd i mi, ac rwy'n llawn hyder y bydd yn arwain y ganolfan gyda chryn anrhydedd dros y 10 mlynedd nesaf.

Yr Athro Syr Michael Owen Director of MRC Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics, Director of Institute of Psychological Medicine and Clinical Neuroscience and Emeritus Director of the Neuroscience and Mental Health Research Institute

Yn ôl yr Athro Walters: "Mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol wedi bod ar flaen y gad o ran canfyddiadau arwyddocaol ym maes geneteg niwroseiciatrig dros y degawd diwethaf, gan gynnig gwybodaeth bwysig am gyflyrau iechyd meddwl a dementia.

"Pleser o'r mwyaf yw cymryd yr awenau fel cyfarwyddwr oddi wrth yr Athro Syr Michael Owen, a llywio'r broses o bontio i'r Ganolfan ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Bydd y Ganolfan yn parhau i fuddsoddi yn y staff a'r adnoddau gwych yng Nghaerdydd i arwain ymchwil geneteg ryngwladol a defnyddio'r wybodaeth sy’n deillio o’r ymchwil hon i wella bywydau'r rheiny â chyflyrau iechyd meddwl a niwrolegol."

Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Mae'r Ganolfan wedi arwain at rai o'r canfyddiadau mwyaf pwysig ym maes geneteg anhwylderau seiciatrig a niwroddirywiol yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae wedi newid wyneb ymchwil iechyd meddwl – ac, yn y pen draw, wedi newid y modd rydym yn ystyried nifer o gyflyrau iechyd meddwl.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn dros y 10 mlynedd ddiwethaf – a llongyfarch pob aelod o staff am gyrraedd y garreg filltir hon.

"Teimlaf yn sicr y bydd nifer mwy o ganfyddiadau sylweddol yn y cyfnod nesaf o waith y Ganolfan."

https://www.youtube.com/watch?v=QKqshjyU4Z8&feature=youtu.be

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.