Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth Lle Dwfn Llanymddyfri: Llwybr ar Gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

29 Hydref 2019

Pa fath o economi a chymdeithas sydd angen i ni eu creu yn Llanymddyfri i gyflawni cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol dros y genhedlaeth nesaf?

Dyma'r ffocws ar yr astudiaeth Lle Dwfn ddiweddaraf, a gafodd ei chynnal ar gymuned wledig Llanymddyfri yn ystod 2018-19.

Cafodd Lle Dwfn ei datblygu gan Dave Adamson a Mark Lang ac mae'n ddull cyfannol o greu lleoedd mewn modd cynaliadwy. Mae’n canolbwyntio ar sut i greu mwy o leoedd a chymunedau sy’n gynaliadwy o ran yr economi, cymdeithas, yr amgylchedd a diwylliant.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gyntaf yn Nhredegar (2014). Ers hynny mae dwy astudiaeth bellach wedi’u cynnal yn y DU: Pont-y-pŵl (2016) a Pharc Lansbury (2017).

Dywedodd Dr Lang, awdur yr adroddiad: “Mae cymunedau gwledig ledled y DU yn wynebu sawl her. Er hynny, mae’n syndod cyn lleied o ymchwil sydd wedi’i chynnal ar drefi marchnad bach. Gallai ffafrio gweithredu mwy lleol, yn seiliedig ar ddewisiadau unigol llai, gael effaith sylweddol ar gryfhau gwydnwch y gymuned yn erbyn y ffactorau allanol hyn.”

Ychwanegodd “Mae gan ganol tref Llanymddyfri gryn botensial i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, i fod yn ffocws ar gyfer cydlyniant cymunedol ac i dyfu gweithgarwch economaidd lleol a chyflogaeth.  Mae sectorau allweddol yr Economi Sylfaen, gan gynnwys bwyd, egni, gofal, yr amgylchedd ac e-fasnach yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth lleol, ac yn allweddol ar gyfer yr agenda creu lleoedd cynaliadwy.”

Mae’r dull Lle Dwfn yn un sylfaenol bositif er ei fod yn ddull sy’n realistig ynghylch maint yr her yn Llanymddyfri a chymunedau eraill ledled y DU.  Mae'n ceisio nodi mentrau ac adnoddau lleol, ynghyd ag angerdd ac ymrwymiad pobl a busnesau lleol.  Mae'r rhain, yn ôl yr adroddiad, yn ffurfio sylfaen ar gyfer dull sy'n canolbwyntio ar le yn ei gyfanrwydd, ac mae hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod ein holl gymunedau'n fwy cyfiawn, gwydn a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

The Llandovery Deep Place Study: A Pathway for Future Generations

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried y cwestiwn, ‘Pa fath o economi a chymdeithas sydd angen i ni eu creu yn Llanymddyfri i gyflawni cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol dros y genhedlaeth nesaf?

Rhannu’r stori hon