Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn ymuno â chanolfan rhagoriaeth Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

15 Hydref 2019

Cohort one of EPSRC Centre for Doctoral Training (CDT)

Mae canolfan fydd yn hyfforddi arbenigwyr y dyfodol mewn technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi agor ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol yn rhoi'r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol i wyddonwyr y dyfodol er mwyn iddynt fynd ymlaen i arwain ymchwil a gweithgynhyrchu mewn diwydiannau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y DU.

Bydd y Ganolfan yn ariannu 64 o fyfyrwyr dros bum carfan hyd at fis Rhagfyr 2027, o ganlyniad i ddyfarniad o £6.6m gan y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC).

Mae Prifysgol Caerdydd yn ganolog i CSConnected – clwstwr o bartneriaid diwydiannol, academaidd a llywodraethol sy'n gweithio ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne Cymru ac sydd â chysylltiadau byd-eang.

Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn olynwyr i'r sglodion silicon traddodiadol. Maent yn perfformio hyd at 100 gwaith yn gynt na silicon, ac yn ganolog i'r 'Rhyngrwyd Pethau' – o ddyfeisiau gofal iechyd a cherbydau awtonomaidd, i systemau radar a lloerenni.

Mae'r Ganolfan yn cynnig ysgoloriaethau PhD EPSRC sydd wedi eu hariannu'n llawn am bedair blynedd i fyfyrwyr dethol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ymgymryd â MSc yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Os ydynt yn cwblhau'r flwyddyn yn foddhaol, byddant yn astudio eu PhD ym Mhrifysgol Caerdydd neu un o'r tri sefydliad partner – Prifysgol Manceinion, Prifysgol Sheffield, a Choleg Phrifysgol Llundain.

Dywedodd un o fyfyrwyr y Ganolfan, Rachel Clark, 22, o Bedworth yn Swydd Warwick: "Ar ôl dechrau prosiect labordy MPhys yn canolbwyntio ar gelloedd ffotofoltäig, sylweddolais fod ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd yn apelio'n fawr ataf. Roedd y Ganolfan yn gweddu'n berffaith i fy niddordebau. Yr hyn oedd yn apelio fwyaf oedd yr hyfforddiant amrywiol – cyfle i ennill sgiliau sy'n hanfodol i fyd diwydiant yn ogystal â'r byd academaidd. Rwy'n gobeithio y bydd y Ganolfan yn fy helpu i ddatblygu sgiliau dynamig ac yn arwain at yrfa ymchwil diddorol a llwyddiannus."

Wrth groesawu'r garfan gyntaf, dywedodd yr Athro Peter Smowton, Pennaeth Ysgol, Ffiseg a Seryddiaeth, a Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd: “Mae Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol yn cynnig cyfle gwych i raddedigion gael yr hyfforddiant sydd ei hangen arnynt i fynd mewn i ddiwydiant cyffrous, sy'n newid yn gyflym ac sydd angen gwyddonwyr a pheirianwyr talentog. Yn ogystal ag ennill sgiliau ymchwil defnyddiol, byddant yn gallu dysgu am y diwydiant yn uniongyrchol gan ein cwmnïau partner.”

Dywedodd Dr Wyn Meredith, cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy’n fenter ar y cyd rhwng IQE a Phrifysgol Caerdydd ac yn un o bartneriaid y clwstwr: "Rydym yn croesawu'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol. Mae clwstwr CSConnected yn tyfu. Rydym yn cefnogi 1,500 o swyddi peirianneg a gwyddoniaeth gwerth-uchel yn uniongyrchol, ac yn cyfrannu £180m y flwyddyn i'r economi ranbarthol. Mae'r rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd lefel cyflogaeth y Clwstwr yn cyrraedd dros ddwbl ei lefel bresennol. Rydym yn rhagweld galw am 100-150 o staff â PhD i gynnal y lefel hon dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd y Ganolfan yn cyflenwi carfan o wyddonwyr a pheirianwyr hynod fedrus ac entrepreneuraidd fydd yn ysgogi twf y tu hwnt i 2025."

Mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd CSConnected yn disgwyl creu dros 5,000 o swyddi yn y blynyddoedd nesaf. Mae gan Brifysgol Caerdydd a'i phrifysgolion partner yr arbenigedd a'r cyfleusterau i ddarparu'r hyfforddiant sydd ei angen yn y diwydiant.

Mae Cyfleuster Ymchwil Drosiadol o'r radd flaenaf fydd yn helpu i droi ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ddyfeisiau newydd sy'n barod i'r diwydiant yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Bydd yn cael ei gwblhau yn 2021, ac yn gartref i Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd, ac yn gweithio'n agos â'r diwydiant i ddatblygu atebion ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.