Tafwyl 2014
30 Gorffennaf 2014
Mae'r Gangen yn hapus iawn i gefnogi digwyddiadau fel Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'n gyfle gwych i gwrdd â darpar fyfyrwyr, hyrwyddo cyrsiau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol a chynnal gwahanol weithgareddau gyda myfyrwyr presennol.
Bob blwyddyn, mae siaradwyr Cymraeg rhugl, dysgwyr ac aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn yr iaith yn heidio i dir castell hanesyddol Caerdydd i ddathlu defnydd y ddinas o'r iaith lafar hynaf yn Ewrop mewn gŵyl sy'n para wythnos. Yn ôl data'r cyfrifiad diweddaraf, caiff ei amcangyfrif bod 11.1% o'r 348,000 o bobl yng Nghaerdydd yn siarad Cymraeg.
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i'r Gymraeg, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ei bod wedi addo £22,000 i ŵyl flynyddol Tafwyl mewn prif gytundeb noddi tair blynedd.
Fel noddwr swyddogol Tafwyl, bydd Prifysgol Caerdydd yn adeiladu ar ei chysylltiadau presennol â'r ŵyl a'i threfnwyr, Menter Caerdydd. Caiff ymchwil a gynhaliwyd gan ei hacademyddion Cymraeg ei harddangos yn yr ŵyl, gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o weithgareddau'r Brifysgol a denu darpar fyfyrwyr.
Pobl Caerdydd
Yn Nhafwyl y llynedd, lansiodd Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, Pobl Caerdydd. Dyma wasanaeth newyddion a rhwydweithio digidol a ddatblygwyd gan y gymuned ac ar ei rhan. Datblygwyd y gwasanaeth mewn ymateb i'r angen pwysig am gynnwys Cymraeg sy'n apelio at gynulleidfa ifanc a digidol lythrennog yng Nghaerdydd. Eleni roedd Pobl Caerdydd yn dathlu ei phenblwydd cyntaf ac roedd y stondin yn llawn bwrlwm ac yn dangos llwyddiant a thwf y fenter i'r dim.
Gofod y Gymraeg
Yn Nhafwyl eleni, cyhoeddodd Arweinydd Cyngor Caerdydd gynlluniau cychwynnol i sefydlu canolfan arbennig fydd yn gartref i'r Gymraeg yn y brifddinas. Menter Caerdyddfydd un o brif bartneriaid y cynllun. Wrth siarad yn agoriad swyddogol yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd, dywedodd y Cynghorydd, Phil Bale, y byddai 'Gofod y Gymraeg' yn ganolbwynt i bobl fedru cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a phrofiadau yn ymwneud â'r Gymraeg. Edrychwn ymlaen at weld y Gofod yn agor ei ddrysau!