Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Ryngwladol 2014

16 Gorffennaf 2014

Canolfan Mileniwm Cymru
Canolfan Mileniwm Cymru

Cynhaliwyd Cynhadledd Ryngwladol gyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan y Mileniwm o'r 1-3 o Orffennaf 2014. 

Testun y gynhadledd oedd: 'Pa Le I'n Hiaith mewn Addysg Uwch'.

Cawsom ni ystod eang o gyfraniadau gan yr Athro Colin Williams (Prifysgol Caerdydd);yr Athro Jasone Cenoz (Prifysgol Gwlad y Basg); Dr Jan Roukens (gynt o'r Comisiwn Ewropeaidd); Yr Athro Durk Gorter o Ikerbasque (Gwyddorau Gwlad y Basg) a'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, AC.

Roedd paneli trafod hefyd ar gael am nifer o bynciau yn amrywio o egwyddorion addysg uwch mewn ieithoedd lleiafrifol, i sut mae cyflogwyr wedi ymateb i sgiliau iaith ychwanegol ymgeiswyr dwyieithog.

Gwersi o wlad y Basg

Cafwyd profiad weddol estron i ran fwyaf o'r gynulleidfa yn ystod darlith yn yr iaith Fasgeg gan yr Athro Jasone Cenoz – sef gorfod gwisgo clustffonau cyfieithu. Roedd y cyfieithu yn digwydd o'r Fasgeg i'r Saesneg ac o'r Fasgeg i'r Gymraeg. 

Yng Ngwlad y Basg, mae cynnydd wedi bod yn y nifer sydd yn gallu Basgeg, diolch i gynllunio ieithyddol dwys a buddsoddiad yn y system addysg, yn enwedig yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.  Pwysleisiodd Cenoz bwysigrwydd sicrhau bod cynllunio ieithyddol ym mhob lefel addysgu – o'r Ysgol Gynradd i Brifysgolion. 

Diddorol oedd nodi fod yr iaith Fasgeg yn ymladd yn erbyn dwy iaith – Sbaeneg a Saesneg, a bod niferoedd siaradwyr yr iaith wedi cynyddu. Mae modd i Gymru'n sicr i edrych tua Gwald y Basg am ysbrydoliaeth a syniadau.

Amlieithrwydd

Datblygwyd y syniad o fanteision amlieithrwydd yn y Gynhadledd, gan fod pobol yn defnyddio gwahanol ieithoedd ar gyfer wahanol bwrpas. Roedd modd dadlau fod un iaith ar gyfer busnes – er mwyn helpu cwmnïau i ddatblygu, a dwy iaith i'r ardal ei hun – er enghraifft Sbaeneg a'r Fasgeg yng Ngwlad y Basg.  Wrth ystyried y ffaith fod 97% o bobol y byd yn siarad 4% o ieithoedd y byd, yna gallwn weld wir bwysigrwydd fod yn amlieithyddol.

Cymraeg slac?

Neges arall bwysig oedd bod angen newid agweddau'r Cymry Cymraeg wrth ystyried safon y Gymraeg, a bod yn wir well cael 'Cymraeg slac na Saesneg slic'. Mae gormod o bwyslais i ryw raddau ar gael Cymraeg perffaith a rhai'n tueddu i beidio defnyddio'r iaith oherwydd diffyg hyder a'r ofn o gael eu barnu.

Iaith ac iechyd

Cafodd pwysigrwydd y Gymraeg yn y maes iechyd a gofal ei danlinellu yma, a sut fod hynny yn rhan o'r driniaeth yn y pen draw.  Pwysleisir fod cleifion mewn cyflwr bregus a nerfus a bod defnyddio'r Gymraeg yn eu helpu i deimlo'n fwy cartrefol gyda'r staff meddygol. Mae hyn yn rhan allweddol o'r broses gofal a gwella. Nodwyd hefyd fod hyblygrwydd ar gael os oedd claf yn gofyn am gael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, gellid cynnal y sgwrs yn y Gymraeg ond rhan amlaf fyddai'r gwaith papur yn Saesneg.

Gobaith i'r Gymraeg

Ysgogwyd llawer yn dilyn y gynhadledd yma, gan fod negeseuon cryf a dylanwadol wedi deillio o'r holl sgyrsiau. Cawsom ein hatgoffa bod sefyllfa'r Gymraeg yn obeithiol, ond fod gwaith datblygu angen ei wneud. Neges bwysig i ni gofio hefyd o'r Gynhadledd yw bod sefyllfa'r Gymraeg yn gyffredin dros y byd. Gallwn geisio sicrhau ffyniant yr iaith drwy edrych dramor ar wledydd fel Gwlad y Basg a Chanada am arweiniad.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Cara Thomas a Catrin Williams, Graddedigion o Ysgol y Gyfraith, Caerdydd.

Rhannu’r stori hon