Galw ar Ddeintyddion Cymraeg y Dyfodol
8 Mehefin 2015
Ddiwedd Ebrill eleni daeth myfyrwyr Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd at ei gilydd i gael cinio a sgwrs gyda swyddogion y Gymdeithas Ddeintyddol.
Ymysg aelodau'r Gymdeithas Ddeintyddol oedd Dr Stephen Keen y Cadeirydd, Dr William J Parry, Dr Manon Pritchard a'r ymgynghorydd iaith sydd wedi golygu amryw gyfrol o eirfa ddeintyddol, Dr J Elwyn Hughes. Roedd Dr Quentin Jones yno yn cynrychioli staff yr Ysgol Deintyddiaeth; Supachai Chuenjitwongsa, myfyriwr Doethuriaeth o Wlad Thai, sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl; Sara Whittam un o staff Coleg Cymraeg yn yr Ysgol Meddygaeth ac Elliw Iwan, Swyddog Cangen Caerdydd. Diolch i'r israddedigion a ddaeth draw; yn eu mysg roedd Ceindeg, Amy, Sion, Caron, Glesni ac Ailish.
Bu Quentin Jones yn trafod gyda Changen Prifysgol Caerdydd o'r Coleg Cymraeg ers tro sut i fynd ati i geisio datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn. A hyn yn enwedig gan fod nifer o Gymry Cymraeg ymysg y myfyrwyr ar y cwrs yn flynyddol. Mae'n bwysig cofio hefyd taw Prifysgol Caerdydd yw'r unig Brifysgol yng Nghymru sydd yn dysgu'r pwnc yma.
Datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
Cafwyd sgwrsio brwd rhwng y Gymdeithas Ddeintyddol, myfyrwyr is raddedig, ôl raddedig a staff yr ysgol. Roedd Elliw Iwan, Swyddog y Gangen yn hapus iawn i weld cymaint o fyfyrwyr yn bresennol. Cytunwyd y byddai digwyddiad o'r fath yn cael ei drefnu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf i gynnwys y to newydd o fyfyrwyr fydd yn ymuno ym mis Medi 2015.
Byddai cael dilyn ôl traed yr Ysgolion Meddygaeth a Gwyddorau Gofal Iechyd gyda'u datblygiadau darpariaeth cyfrwng Cymraeg nhw yn beth gwerthfawr iawn i ddeintyddion Cymraeg y dyfodol.
Cyfleoedd gwerthfawr
Bydd gwybodaeth am gynhadledd flynyddol y Gymdeithas, fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn yr Hydref, yn cael ei danfon at y myfyrwyr. Mae croeso mawr i bawb gymryd rhan a mynychu'r gynhadledd sy'n gyfle da i rwydweithio a gwneud cysylltiadau ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Coleg Cymraeg am noddi'r digwyddiad hwn, ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.