Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiadurwraig y Byd ar Bedwar yn ymuno â chynllun staffio’r Coleg Cymraeg

25 Tachwedd 2015

Mae darpariaeth Newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil penodiad newydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r newyddiadurwraig brofiadol Sian Morgan Lloyd wedi cychwyn fel darlithydd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y brifysgol.

Mae Sian yn olynu cyn-bennaeth BBC Radio Wales, Sali Collins ac yn gobeithio datblygu ar y cynnydd yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg yr ysgol.

Eleni am y tro cyntaf mae modd i fyfyrwyr astudio gradd cydanrhydedd Newyddiaduraeth a Chymraeg, yn ogystal â dilyn modiwlau unigryw unigol megis Yr Ystafell Newyddion.

Mae'r cwrs, sy’n cyfuno astudiaeth academaidd gyda chyfleoedd ac addysgu ymarferol, yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Wedi degawd yn gohebu ar raglen Y Byd ar Bedwar o bob cwr o’r byd, tasg Sian fydd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr Cymraeg eu hiaith a’u hannog i weithio yn y diwydiant trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Sian:

''Fy ngobaith yn y pen draw yw meithrin hyder pobl ifanc i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gyfrannu at fywyd newyddiadurol Cymru, ac rwy’n gwybod o brofiad bod yna alw am newyddiadurwyr iaith Gymraeg yn y maes. Gobeithio y bydd modd i mi gyfoethogi'r ddarpariaeth a phrofiad y myfyrwyr yma, lledaenu'r neges am ein gwaith ar draws Cymru yn ogystal ag adeiladu ar enw da'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd.’’

Gallwch weld mwy o wybodaeth am y ddarpariaeth drwy ddilyn @Jomeccymraeg ar Twitter.

Rhannu’r stori hon