Ewch i’r prif gynnwys

Y Lab a Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cronfa Arloesedd Digidol werth £250,000

3 Tachwedd 2015

Steve Gamlin

Cronfa Arloesedd Digidol i gynyddu'r defnydd o dechnoleg ddigidol mewn gwasanaethau cyhoeddus

Bydd cronfa newydd a fydd yn ymchwilio i sut gall technoleg ddigidol helpu i arloesi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei chyhoeddi heddiw (3 Tachwedd) gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Gronfa Arloesedd Digidol, gwerth £250,000, yn cael ei chyflwyno gan 'Y Lab' - menter ar y cyd rhwng Nesta a Phrifysgol Caerdydd, a lansiwyd ym mis Gorffennaf i ddyfeisio a phrofi atebion newydd i'r heriau dybryd sy'n wynebu'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y Gronfa ar agor i ymgeiswyr yn ddiweddarach y mis hwn, a bydd yn cefnogi sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sydd am ddefnyddio technoleg ddigidol i dreialu ffyrdd mwy doeth ac effeithiol o weithio. Bydd y prosiectau a gaiff eu hariannu'n llywio meysydd ffocws y dyfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac Y Lab.

Mae enghreifftiau o brosiectau y gellid eu hariannu yn cynnwys y rheini sy'n defnyddio data cyhoeddus i dargedu gwasanaethau'n well, neu sy'n symleiddio systemau a phrosesau i leihau costau, a gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch. 

Bydd cefnogaeth a gaiff ei darparu drwy'r Gronfa hefyd yn cynnwys mynediad at gyngor busnes, digwyddiadau, gweithdai a gwasanaethau mentora. Defnyddir y Gronfa hefyd i gefnogi'r broses o sefydlu Rhwydwaith Arloeswyr Digidol newydd, a gaiff ei gynnal gan Y Lab. Bydd yn dwyn ynghyd arweinwyr digidol y sector cyhoeddus a'r sector preifat i rannu arferion gorau.

Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa a'r Rhwydwaith Arloeswyr Digidol ar gael yma.

Wrth siarad cyn lansio'r Gronfa, dywedodd Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews AC:  "Rydym yn cydnabod bod y maes digidol wedi gweddnewid y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau, ac rydym am i wasanaethau cyhoeddus ddefnyddio dulliau digidol i drawsnewid y ffordd maent yn rhyngweithio â dinasyddion.  Bydd y Gronfa Arloesedd Digidol yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i feithrin y gallu i ddarparu gwasanaethau digidol a dod o hyd i atebion newydd i'r heriau y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu. Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Y Lab, prosiect Nesta a Phrifysgol Caerdydd, i hwyluso arloesedd angenrheidiol yn y maes hwn."

Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd:"Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes o weithio gydag ymarferwyr arloesedd yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, a'u dwyn ynghyd, i helpu i wella'r gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu yng Nghymru. Bydd cyhoeddi'r arian hwn heddiw yn ddechrau ar gam nesaf y gwaith.

"Bydd y Gronfa Arloesedd Digidol yn fecanwaith pwysig ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, i hybu eu gallu i fanteisio ar dechnoleg, treialu dulliau newydd a gwneud y mwyaf o gyfleoedd a dulliau gweithio newydd.

"Drwy Y Lab, byddwn yn gweithio i ddatblygu cysylltiadau cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, a chysylltu'r rhain â chwmnïau o'r radd flaenaf a sefydliadau'r trydydd sector er mwyn mynd i'r afael â'r problemau dybryd sy'n effeithio ar ffyniant a lles y genedl gyfan."

Dywedodd Simon Brindle, Cyfarwyddwr Y Lab, Nesta:"Mae'r Gronfa Arloesedd Digidol yn creu cyfle cyffrous i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ddysgu o ddatblygiadau digidol arloesol yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.  Bydd y gronfa'n cefnogi'r gwaith o gyflymu'r broses o ddysgu a datblygu gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru, gan helpu i adnabod ffyrdd o leihau costau a gwella canlyniadau."

Rhannu’r stori hon