Ewch i’r prif gynnwys

Therapïau newydd ar gyfer anhwylderau gorbryder

5 Awst 2019

Researchers working in a busy chemistry lab

Mae yn agos i 75% o gleifion ag Anhwylder Gorbryder Cyffredinol yn nodi anfodlonrwydd gyda'u triniaethau oherwydd sgil effeithiau sylweddol, ond nod prosiect newydd a gaiff ei lansio yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yw ymdrin â'r broblem iechyd fyd-eang hon.

Lansiodd y Sefydliad ym Mhrifysgol Caerdydd Brosiect Ymchwil newydd ar 9 Gorffennaf. Y nod yw darganfod a datblygu therapïau newydd ar gyfer anhwylderau gorbryder.

Mae'r prosiect yn targedu proteinau penodol yn yr ymennydd o'r enw derbynyddion GABAA. Mae'r proteinau hyn, a elwir yn fwy penodol yn α2/α3-GABAAR yn ymateb i gemegyn yn yr ymennydd o'r enw asid gama-aminobwtyrig, sy'n rheoleiddio cyfathrebu rhwng celloedd nerfol.

Dywedodd yr Athro John Atack, o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: "Anhwylder Gorbryder Cyffredinol yw'r anhwylder gorbryder mwyaf cyffredin sy'n analluogi mewn gofal sylfaenol. Mae'n arwain at ostyngiad sylweddol mewn ansawdd bywyd a gall amharu’n sylweddol ar weithgareddau arferol pob dydd.

"Mae bensodiasepinau fel Valium a Xanax yn ddosbarth o gyffuriau a gyflwynwyd gyntaf ddechrau'r 1960au ac sy’n gweithio’n gyflym i leihau gorbryder. Fodd bynnag, maen nhw'n gysylltiedig â sgil effeithiau tawelyddol.

"O ganlyniad, maen nhw wedi'u disodli fel triniaethau llinell flaen ar gyfer Anhwylder Gorbryder Cyffredinol gan gyffuriau gwrth-iselder â phwyslais newydd, sydd nid yn unig yn oedi o ran effeithiolrwydd ond sydd hefyd â sgil-effeithiau sylweddol.

"O ganlyniad, mae tua 75% o gleifion ag Anhwylder Gorbryder Cyffredinol yn rhoi'r gorau i'w triniaeth neu'n dewis peidio â derbyn unrhyw driniaeth. Felly mae angen sylweddol i ganfod y therapi arloesol cyntaf ar gyfer trin Anhwylder Gorbryder Cyffredinol ers dros 50 mlynedd.

"Mae bensodiasepinau yn gweithio drwy newid swyddogaeth amrywiaeth o wahanol broteinau GABAAR yn yr ymennydd, ond dydyn nhw ddim yn ddethol, ac mae hyn achosi sgil effeithiau tawelyddol.

"Rydym ni am ddod o hyd i feddyginiaeth newydd sy'n targedu'n benodol yr is-deipiau o dderbynyddion GABAA sy'n gysylltiedig â lleihau gorbryder, yr α2/α3-GABAAR, gan osgoi'r proteinau derbynnydd GABAA hynny sy'n achosi tawelyddu. Y gobaith yw y bydd hyn yn dod â buddiannau therapiwtig heb y sgil effeithiau tawelyddol.

"Gobeithio drwy ddod o hyd i gyffur newydd fydd yn effeithio ar y proteinau derbynnydd GABAA sy'n lleihau gorbryder ond heb dawelyddu, y gallwn dargedu math penodol o'r derbynnydd hwn a chreu therapi effeithiol heb sgil effeithiau, fydd yn cael effaith dramatig ar fywydau pobl sy'n byw gydag anhwylderau gorbryder."

Rhannu’r stori hon