Ewch i’r prif gynnwys

Growth for Intelligent Ultrasound Group

15 Gorffennaf 2019

Intelligent Ultrasound Group

Mae cwmni meddalwedd ac efelychu uwchsain ar sail deallusrwydd artiffisial (AI) a ddechreuodd ei daith fel un o gwmnïau deilliannol Prifysgol Caerdydd, yn disgwyl i’w drosiant gynyddu 25% yn y chwech mis hyd at 30 Mehefin 2019.

Yn ôl Intelligent Ultrasound Group (IUG) plc (AIM: MED) bydd twf, sy'n cael ei gynhyrchu gan Adran Efelychu'r grŵp ar hyn o bryd, yn cynyddu i tua £3.1m (H1 2018: £2.5m).

Ar ddechrau'r daith, Medaphor Group plc oedd enw'r grŵp – darparwr byd-eang o uwch-efelychwyr sgiliau uwchsain at ddibenion hyfforddi a sefydlwyd yn 2004 a'i leoli yn Medicentre Caerdydd.

Prynwyd IUG gan Medaphor, un o gwmnïau deilliannol Prifysgol Rhydychen, yn 2017. O ganlyniad i brynu meddalwedd dadansoddi delweddau'r cwmni, roedd Medaphor yn gallu ehangu ei fusnes uwchsain presennol i mewn i'r farchnad ehangach ar gyfer meddalwedd sy'n ymwneud ag uwchsain.

Mabwysiadodd y cwmni'r enw Intelligent Ultrasound Group ym mis Ionawr 2019, ac aeth Adran Glinigol y grŵp ymlaen i ennill contract o bwys ym maes AI yn gynharach y mis hwn.

Yn ôl Stuart Gall, Prif Swyddog Gweithredol Ultrasound Group plc: "Ar ôl ennill y contract Dealltwriaeth Artiffisial, oedd yn garreg filltir o bwys a gyhoeddwyd gennym ar 4 Gorffennaf 2019, mae'n arbennig o braf gallu rhoi gwybod am dwf parhaol ein Hadran Efelychu yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, gan ei dwyn yn agosach at adennill costau a rhoi hyder i ni y bydd yn cyflawni disgwyliadau'r tîm rheoli ar gyfer y flwyddyn gyfan."

Ers ei ffurfio, mae'r grŵp wedi gallu torri tir newydd o ran cynnyrch Uwchsain Deallus, datblygu cynnyrch realiti estynedig (AR) ac efelychwyr ac adrannau hyfforddi Medaphor sy'n bodoli eisoes. Mae hefyd wedi ariannu'r broses o reoli cyfalaf gweithiol y cwmni, gan ehangu'r busnes efelychydd hyfforddiant presennol i mewn i'r farchnad ehangach ar gyfer uwch-feddalwedd uwchsain.

Yn ôl Dr Nick Bourne, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Datblygu Masnachol yng Ngwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch o lwyddiant parhaus Intelligent Ultrasound Group, ei wreiddiau yn y Brifysgol, a'i rôl y wrth gynhyrchu buddiannau economaidd ar gyfer y Ddinas-ranbarth yn fwy eang."

Cafodd Medaphor plc ei sefydlu ar y cyd gan Nazar Amso, Athro Obstetreg a Gynaecoleg yn yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

Mae adran efelychu a hyfforddi uwchsain y grŵp wedi'i lleoli yng Nghaerdydd ac mae'n canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant realistig ym maes uwchsain, drwy efelychu.

Mae cynnyrch o'r radd flaenaf gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys y ScanTrainer – y system efelychu uwchsain ym maes obstetreg, gynecoleg a meddygaeth yn gyffredinol, sydd wedi ennill gwobrau; HeartWorks, y system addysg ecocardiograffeg, a BodyWorks, efelychydd ar gyfer addysg uwchsain Cam Gofal ym maes meddygaeth argyfwng a gofal critigol.

Mae dros 750 o efelychwyr wedi'u gwerthu i dros 450 o sefydliadau meddygol ar draws y byd.

Rhannu’r stori hon