Ewch i’r prif gynnwys

Hwyl ymarferol yn yr ŵyl

17 Mehefin 2019

Tafwyl stand

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cyfres o weithgareddau ymarferol i arddangos ei hymchwil a'i haddysgu yng Ngŵyl flynyddol Celfyddydau a Diwylliant Cymraeg y ddinas, Tafwyl.

Mae ein partneriaeth â'r ŵyl yn rhan o'n ‘cenhadaeth ddinesig’ i gefnogi a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Sefydlwyd Tafwyl gan elusen Menter Caerdydd yn 2006 i ddathlu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghaerdydd.

Mae'r ŵyl bellach yn ddigwyddiad mawr yn y ddinas, a denodd dros 40,000 o bobl yn 2018.

Cynhelir prif raglen Tafwyl eleni yng Nghastell Caerdydd o nos Wener 21 Mehefin tan ddydd Sul 23 Mehefin. Ceir cymysgedd bywiog o gerddoriaeth byw, digwyddiadau llenyddol, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod yno.

Bydd ein pabell fawr sydd ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul tan 17:00, yn tynnu sylw at ein hymchwil mewn ffordd hwyl a diddorol gan gynnwys:

  • Dysgu am feteorynnau a'u heffaith ar fywyd ar y ddaear (Dydd Sadwrn am 12:00)
  • Ymchwilio i effaith llygredd plastig ar yr amgylchedd (Dydd Sadwrn a dydd Sul am 13:30)
  • Creu eich meddyginiaethau rhyfeddol eich hun (Dydd Sadwrn am 15:00)
  • Darganfod pam ein bod yn monitro dyfrgwn marw a chreaduriaid sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd (Dydd Sul am 12:00)
  • Rhoi cynnig ar lawfeddygaeth (Dydd Sul am 15:00)

Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cael gwybodaeth am ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

At hynny, bydd Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg yn rhoi cyngor ar ddulliau dysgu ail iaith ym mhabell y dysgwyr am 14:15 ar y dydd Sul.

Rydym yn bartner allweddol yn Tafwyl a bydd yr Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn cynrychioli'r Brifysgol yn y seremoni agoriadol.

Mae mynediad i Tafwyl yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb - os ydych yn siarad Cymraeg, dysgu Cymraeg neu beidio.

Mae gennym berthynas gref â gwyliau diwylliannol mawr Cymru gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Rydym yn cefnogi Tafwyl yn yr un modd.

Unwaith eto bydd gennym bresenoldeb sylweddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gynhelir yn Llanrwst yn sir Conwy rhwng 3 a 10 Awst.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.