Ewch i’r prif gynnwys

Eisteddfod yr Urdd

9 Mai 2019

Clay models of sea animals

Bydd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr darganfod meddyginiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Am y tro cyntaf ers degawd, fe gynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mhrifddinas Cymru. Eleni, bydd Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd yn ymuno â’r ŵyl i rannu sut mae gwyddonwyr y Sefydliad yn darganfod therapïau newydd.

Bydd miloedd o blant a phobl ifanc yn ymweld â’r Maes ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin, am un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop i bobl ifanc.

Ar 29 a 30 Mai, bydd gwyddonwyr o’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn y Basn Hirgrwn, er mwyn rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael profiad ymarferol o ddarganfod meddyginiaethau.

Bydd y gweithgareddau’n ystyried sut gellir darganfod meddyginiaethau newydd ym myd natur, neu eu cynhyrchu’n synthetig. Byddant hefyd yn herio plant i wneud targedau moleciwlaidd newydd mewn pos heriol ac addysgiadol.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Mae angen i ni fynd ati’n barhaus i wthio ffiniau’r gwyddorau biofeddygol er mwyn cynnal poblogaeth iach yn y byd sydd ohoni.

“Er mwyn dod o hyd i feddyginiaethau newydd sy’n ateb yr heriau digynsail i iechyd y byd, a pharhau i ddatblygu atebion therapiwtig i’r rheini sydd â phrinder opsiynau ar hyn o bryd, mae angen magu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr brwdfrydig ac ymroddedig.

“Drwy ddangos i blant a phobl ifanc beth mae darganfod meddyginiaethau yn ei olygu, gobeithiwn eu hysbrydoli i wireddu eu potensial fel ymchwilwyr. Efallai byddant yn mynd ymlaen i ddarganfod rhywbeth fydd yn newid bywydau cleifion yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon