Ewch i’r prif gynnwys

Dr Catherine Wilson i eistedd ar Bwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cynulliad Cymru

8 Mai 2019

CatherineWilsonFlume
Dr Catherine Wilson in the hydraulics laboratory (School of Engineering).

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru aelodau newydd Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Dewiswyd Dr Catherine Wilson, ymchwilydd cyswllt o Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd ac Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Beirianneg, i eistedd ar y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol am y tair blynedd nesaf.

Mae arbenigedd ymchwil Dr Wilson yn canolbwyntio ar hydrodynameg a hydroleg amgylcheddol mewn afonydd a'u heffaith ar ecosystemau.

Bydd y Pwyllgor yn cynghori Llywodraeth Cymru ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n datblygu rhaglen o weithgareddau cynghori yn unol â Strategaeth Genedlaethol y llywodraeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau a'u paratoi i allu gwrthsefyll llifogydd.

Dywedodd Lesley Griffiths AC: ‘Bydd y Pwyllgor yn chwarae rôl bwysig o ran cyflwyno cyngor ymchwil, polisi a strategaeth a gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i fynd i'r afael â pherygl llifogydd a meithrin gwytnwch yn effeithiol ledled Cymru.

Mae aelodau eraill o'r Pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ac arbenigwyr o'r diwydiant dŵr.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y stori lawn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.