Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Springboard ar gyfer offer at ddibenion ymchwil a darganfod cyffuriau

30 Ebrill 2019

Shelkovnikova_Tatyana_staff_profile 2

Mae Academi’r Gwyddorau Meddygol wedi dyfarnu bron £100,000 i ymchwilwyr yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau er mwyn helpu i ddatblygu triniaethau mwy effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Mae Tatyana Shelkovnikova o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Springboard, a fydd yn cefnogi prosiect sy’n ymchwilio i’r moleciwl NEAT1. Mae’r moleciwl hwn yn chwarae rôl mewn llawer o glefydau, fel rhai niwrolegol yn ogystal â chanser.

Gall rheolaeth annormal o NEAT1 mewn celloedd ragdueddu pobl at amrywiaeth helaeth o glefydau. Dyma darged addawol ar gyfer triniaethau newydd.

Dywedodd Dr Tatyana Shelkovnikova, Prifysgol Caerdydd: “Mae dwy ffurf wahanol i NEAT1. Felly mae angen offer arbennig arnom ni er mwyn gwahaniaethu rhyngddyn nhw.

“Byddai’r offer hyn yn ein galluogi i ddeall rôl dwy ffurf y moleciwl NEAT1 mewn clefydau’n well. Ar ôl i ni ddeall hyn, gallwn ymchwilio i gyffuriau newydd sy’n targedu NEAT1.”

Bydd Gwobr Springboard yn cyllido prosiect fydd yn galluogi’r ymchwilwyr i olrhain NEAT1 mewn celloedd.

“Byddwn yn gallu arsylwi lefelau a lleoliad NEAT1 o fewn celloedd byw. Yna, gallwn ddefnyddio hyn i ddatblygu system lle gallwn brofi triniaethau newydd fydd yn effeithio ar lefelau NEAT1.

“Mae’r grant hwn sy’n werth £99,293 yn fuddsoddiad gwerthfawr ar gyfer ymchwil fydd yn helpu i chwilio am foleciwlau sy’n targedu NEAT1 mewn amrywiaeth o glefydau.

“Drwy’r ymchwil hon, gobeithiwn ddod o hyd i atebion er mwyn diwallu’r dirfawr angen am driniaethau clinigol a gwella’r triniaethau ar gyfer ystod o glefydau yn y dyfodol,” ychwanegodd Dr Shelkovnikova.

Rhannu’r stori hon