Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cynnal Gŵyl Arloesi Data

30 Ebrill 2019

Data event

Bydd Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd yn cynnal Gŵyl Arloesi Data gyntaf Cymru.

Bydd y digwyddiad - a gynhelir ar 3 Mai - yn agored i bartneriaid diwydiannol, myfyrwyr ymchwil, academyddion a lleygwyr sy’n ymddiddori yn y gwyddorau data, dadansoddeg a disgyblaethau perthnasol.

Bydd yr Ŵyl yn amlygu sut mae’r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data (DIRI) yn cefnogi diwydiant, ymchwil, addysg a gwaith ymgysylltu ar draws Dinas-Ranbarth Caerdydd.

Dywedodd Cyfarwyddwyr y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data, yr Athrawon Paul Harper ac Irena Spasić: “Mae ein gŵyl yn gyfle i bawb sy’n ymddiddori ym maes gwyddorau data ymgynnull, dysgu oddi wrth ei gilydd a deall sut mae DIRI yn datblygu defnyddiau ar gyfer data mawr yn y byd go iawn gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws sectorau masnachol a chyhoeddus i hyrwyddo cynhyrchedd busnes.”  

Ymysg y Prif Siaradwyr bydd Rema Padman, Athro Gwyddorau Rheoli a Gwybodeg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Carnegie Mellon ym Mhittsburgh, UDA; Peter Fullerton, Dirprwy Gyfarwyddwr dros Gynllunio ac Adnoddau ar Gampws y Gwyddorau Data, Swyddfa’r Ystadegau Gwladol (ONS), Casnewydd, a Peter Madden OBE, Athro Ymarfer mewn Dyfodol Dinasoedd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd.

Bydd darlith yr Athro Radman yn trafod ‘Arloesiadau a Sbardunir gan Ddata a Darganfod Gwybodaeth mewn Byd Cysylltiedig.
Bydd Peter Fullerton yn trafod ‘Gwyddorau Data er budd y cyhoedd yn ONS - beth ydym wedi’i ddysgu, ble ydym yn mynd?’. Bydd yr Athro Madden yn amlinellu ffyrdd o ‘Ddeall Dinasoedd yn yr Oes Ddigidol.’

Ychwanegodd yr Athro Harper: “Rydym wrth ein boddau’n croesawu ystod o siaradwyr nodedig sydd â phrofiad ymarferol o fynd i’r afael â phrosiectau data mawr yma yng Nghymru ac yn America. Dyma gyfle gwych i fusnesau gymryd rhan a, gyda lwc, cydweithio â ni yn y dyfodol er mwyn dod o hyd i atebion ymarferol ar gyfer materion ynghylch data mawr fydd yn effeithio ar y sectorau meddygol, biowyddorau, gwyddorau cymdeithasol, gwyddorau ffisegol a pheirianneg.”

Cynhelir Gŵyl Arloesedd Data Cymru ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd rhwng 9 ac 1 o’r gloch ar 3 Mai. Ar ôl y digwyddiad, bydd cinio rhyngweithio am 12.45.

Cewch rhagor o manylion ac archebu tocynnau ar Eventbrite.