Ewch i’r prif gynnwys

Ecosystemau newydd a natur yn dychwelyd yn yr Anthropocene

29 Ebrill 2019

Rethinking the Anthropocene

Mae’r gydnabyddiaeth gynyddol hon o effaith bodau dynol ar natur, wedi annog gwyddonwyr cymdeithasol i edrych ar y ffyrdd y mae prosesau cymdeithasol yn llywio’r amgylchedd ac yn amharu ar wasanaeth yr ecosystem yr ydym yn dibynnu arni.

Ers miloedd o flynyddoedd, mae cymdeithas ddynol wedi llywio patrymau defnydd tir, wedi newid ecosystemau a phatrymau bioamrywiaeth byd-eang. Mae llawer o bobl yn cyfeirio at y cyfnod hwn, lle gweithgarwch dynol yw’r prif ddylanwad ar yr hinsawdd a’r amgylchedd, fel yr Anthropocene.

Yn y llyfr newydd hwn, mae’r Athro Baker yn edrych ar y cysyniad o ecosystemau newydd, neu ecosystemau a gynhyrchir gan ryw fath o aflonyddwch anthropogenig, a’u harwyddocâd yn nhermau ein dealltwriaeth ni o natur a ‘naturiol’ ac o ran sut rydym yn ymdrechu i gadw, diogelu a deall natur.

Gydag o leiaf traean o arwyneb tir y ddaear bellach yn cael ei ystyried yn ‘newydd,’ mae hi’n dadlau y gellir ystyried presenoldeb ecosystemau newydd ar draws y byd yn arwydd o’r Anthropocene, neu’r graddau y mae pobl wedi llywio natur. Mae eu presenoldeb hefyd yn cryfhau’r farn nad yw bellach yn ddilys trin systemau naturiol ar wahân i systemau dynol.

Fodd bynnag, er bod yr Athro Baker yn cydnabod bod natur dan reolaeth dylanwad dynol, mae hi’n dadlau bod hyn yn digwydd ar raddfeydd gwahanol. “Er y gallai gweithgarwch dynol ysgogi’r ecosystemau newydd hyn, gallant mewn nifer o achosion, gynnal eu hunain heb ymyrraeth ddynol – sy’n dangos nad yw natur o dan ein rheolaeth ni yn y bôn.”

Trwy gydol y bennod, mae’r Athro Baker yn edrych ar y trafodaethau academaidd cyfredol ynghylch ecosystemau newydd, eu goblygiadau o ran polisi ac arferion cadwraeth. Yn y pen draw, mae hi’n mynnu nad oes angen datblygu safbwynt mwy soffistigedig o natur yn yr Anthropocene. Wrth ddatblygu rhyngweithiadau cynaliadwy rhwng natur a chymdeithas, mae’n dweud “mae’n rhaid i bobl weithio ochr yn ochr â natur, gan gydnabod nad yw natur wedi’i wedi’i chynnwys mewn cymdeithas yn gyfan gwbl, ond yn hytrach, mae’n cadw ei dynamig awtonomaidd ei hun.”

Mae’r llyfr Rethinking the environment for the anthropocence yn casglu’r safbwyntiau mwyaf cyfredol am yr Anthropocene ym maes Theori Wleidyddol Amgylcheddol (EPT). Mae hefyd yn dangos cyfraniad nodedig EPT at y dasg o ystyried ystyr ‘yr amgylchedd’ yn y cyfnod hwn lle mae pobl yn dylanwadu mwy a mwy ar systemau naturiol. Mae ar gael gan Routledge.

Rhannu’r stori hon