Ewch i’r prif gynnwys

Newidiadau genetig prin yn gysylltiedig â risg uwch o iselder

24 Ebrill 2019

Kim Kendall
Dr Kimberely Kendall

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng newidiadau prin yn ein côd genetig, sef yr hyn a elwir yn amrywiolion rhifau copi (CNVs), a’r risg o ddatblygu iselder.

Yn y gorffennol, dangoswyd bod CNVs prin yn cynyddu risg unigolyn o brofi ystod eang o anhwylderau niwroddatblygiadol gan gynnwys sgitsoffrenia, anabledd deallusol, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac awtistiaeth. Fodd bynnag, mae effaith yr amrywiolion hyn ar y risg o gael iselder wedi bod yn aneglur cyn hyn.

Gan ddefnyddio data o Fanc Bio’r DU, edrychodd y tîm ymchwil ar rôl y 53 o CNVs y gwyddom eu bod yn gysylltiedig â risg uwch o anhwylderau niwroddatblygiadol o ran datblygu iselder mewn dros 400,000 o unigolion sydd o dras Ewropeaidd.

“Fel grŵp, gwelsom fod CNVs niwroddatblygiadol yn cynyddu’r risg o iselder o rhwng 1.34 a 1.51 o weithiau, yn dibynnu ar sut y diffiniwyd iselder. Gwnaethom ddefnyddio tri o ddiffiniadau; iselder hunan-gofnodedig, iselder hunan-gofnodedig gyda phresgripsiwn gwrth-iselder ar hyn o bryd a diagnosis ar ôl i glaf gael ei rhyddhau o’r ysbyty,” dywedodd Dr Kimberley Kendall, Cymrawd Ymchwil Clinigol Ymddiriedolaeth Wellcome yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg y Brifysgol.

Cynhaliwyd dadansoddiadau pellach gan Dr Kendall a’i chydweithwyr i ystyried a ellir esbonio’r cysylltiad hwn gan amrywiolion sy’n gysylltiedig â risg uwch o iselder, gan gynnwys iechyd corfforol, cyrhaeddiad addysgol, amddifadedd cymdeithasol, statws ysmygu ac yfed alcohol.

“Er bod pob un o’r amrywiolion hyn yn gallu esbonio’r cysylltiad yn rhannol, gyda’i gilydd, roeddent yn cyfrif am gyfran fach iawn o’r berthynas yn unig. Gwelwyd cysylltiad annibynnol cryf rhwng CNVs niwrddatblygiadol ac iselder yn ein dadansoddiadau wrth ymgorffori’r mesurau hyn,” ychwanegodd Dr Kendall.

Er bod pob un o’r amrywiolion hyn yn gallu esbonio’r cysylltiad yn rhannol, gyda’i gilydd, roeddent yn cyfrif am gyfran fach iawn o’r berthynas yn unig. Gwelwyd cysylltiad annibynnol cryf rhwng CNVs niwrddatblygiadol ac iselder yn ein dadansoddiadau wrth ymgorffori’r mesurau hyn.

Dr Kimberley Kendall WCAT Fellow, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Meddai’r Athro James Walters, awdur cyfatebol ar y papur, “Mae hyn yn bwysig o ran ychwanegu at yr hyn rydym yn ei wybod am y ffactorau risg genetig hyn, sy’n nodi unwaith eto na ellir tybio nad oes effaith ar y bobl sy’n cario CNVs nad oes ganddynt anhwylderau niwroddatblygiadol.”

Mae’r papur, Association of Rare Copy Number Variants with Risk of Depression, wedi’i gyhoeddi yn JAMA Psychiatry.

Rhannu’r stori hon