Ewch i’r prif gynnwys

Dod â myfyrwyr prifysgol a phlant meithrinfa ynghyd â chelfyddyd

8 Ebrill 2019

Nursery mural children handpainting
Image credit: Ellie McAdams

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi creu murlun i addurno mynedfa Canolfan Gofal Dydd y Brifysgol.

Dyluniwyd y murlun ar y cyd â Chymdeithas Celfyddydau Prifysgol Caerdydd, ac fe’i peintiwyd gan fyfyrwyr dan arweiniad Bradley ‘RMER’ Woods, sy’n artist graffiti lleol.

Cymerodd plant o Ganolfan Gofal Dydd y Brifysgol ran hefyd, gan roi’r cyffyrddiad olaf ag olion eu dwylaw eu hunain. Bu’n ddiwrnod o gydweithio creadigol rhwng y myfyrwyr a’r plant, gyda phenllanw o ddathliad a gynhaliwyd gan y Ganolfan Gofal Dydd gyda chefnogaeth gan y Gymdeithas Figanaidd a Phobi.

Nod y prosiect creadigol oedd rhoi’r cyfle i fyfyrwyr arddangos eu galluoedd celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau cynllunio a gweithio mewn tîm.

Gwahoddodd BAM, y cwmni adeiladu sy’n adeiladu Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, y plant i’r safle i gwrdd â’r tîm adeiladu a dysgu am y prosiect.

Roedd Jacqui Kempa, rheolwr Canolfan Gofal Dydd y Brifysgol, yn frwdfrydig dros y prosiect, gan ddweud “Rydym wastad yn edrych am ffyrdd newydd a diddorol o ymgysylltu â phlant ein meithrinfa drwy weithgareddau creadigol.

“Pan glywon ni fod y plant eisiau addurno’r ffens rhwng y feithrinfa a safle adeiladu Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, meddyliais i y byddai’n gyfle gwych i gynnwys y plant hefyd.

“Rydw i wrth fy modd gyda’r dyluniad mae’r myfyrwyr wedi’i lunio.  Mae’n gwneud cryn wahaniaeth i fynedfa’r feithrinfa ac mae’r plant yn falch eu bod wedi cymryd rhan yn y prosiect.”

Dywedodd Molly Delooze, myfyriwr Seicoleg, sydd hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Celfyddydau: “Dwi’n hynod falch o ddweud i mi helpu i baentio’r murlun, ac mae’n edrych yn wych.  Roedd yn brosiect diddorol a ddaeth â myfyrwyr ynghyd dros rywbeth gwerth chweil. Yn ôl pob golwg roedd y plant wrth eu bodd yn gorchuddio’u dwylo â phaent pan oedden nhw’n ychwanegu olion llaw ac yn eu troi’n fwystfilod morol.”

https://youtu.be/yBQ__eJxJF8

Rhannu’r stori hon

Llwythwch a chwblhewch ein ffurflen i wneud cais am le yn y Feithrinfa.