Ewch i’r prif gynnwys

Academydd blaenllaw yn cefnogi Archwiliad Arloesedd

28 Mawrth 2019

Professor Kim Graham
Pro Vice-Chancellor, Research, Innovation and Enterprise, Professor Kim Graham

Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd yn dweud y gall adroddiad newydd ynghylch gwyddoniaeth ac arloesedd helpu i ddatgloi twf wedi'i arwain gan arloesedd yn ne Cymru.

Cafodd yr archwiliad ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn gynharach y mis hwn, ac mae wedi amlinellu'r modd y gall de Cymru gymryd camau cadarnhaol a hirhoedlog i ddatgloi potensial y rhanbarth i dyfu, wedi'i arwain gan arloesedd.

Yn ôl yr Athro Kim Graham, Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae rhagoriaeth ymchwil Caerdydd yn dod â manteision economaidd-gymdeithasol enfawr i Gymru. Mae’r Adroddiad yn dangos sut mae hyn yn cefnogi twf drwy ein cyd-fuddsoddiad mewn Ymchwil a Datblygu gyda chwmnïau angori a phartneriaid eraill yn y sector preifat yng Nghymru.

"Mae pob un o themâu’r Adroddiad yn cyd-fynd â chryfderau academaidd o Brifysgol Caerdydd a’i phartneriaid academaidd ledled Cymru, ac mae blaenoriaethau'r Her Fawr wedi’u nodi yn strategaeth wyddonol Llywodraeth Cymru, ‘Gwyddoniaeth i Gymru’ a blaenoriaethau rhanbarthol a amlinellwyd yn y cynllun gweithredu economaidd, 'Ffyniant i Bawb'. Rydym yn cydweithio’n agos â busnesau dwys Ymchwil a Datblygu i gynnig technolegau arloesol i’r farchnad, cefnogi twf economaidd a chreu cyflogaeth.”

Mae Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi (SIA) consortiwm Crwsibl De Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dwyn Prifysgolion Abertawe, Caerdydd, Aberystwyth a Bangor at ei gilydd, ynghyd â chanolfannau rhagoriaeth ymchwil a chwmnïau sydd o bwys rhyngwladol.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac wedi'i gomisiynu gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), mae’r adroddiad yn cadarnhau bod galluoedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn ne Cymru. Mae hefyd yn cynnig portffolio cryf o asedau gwyddoniaeth ac arloesedd sy’n gystadleuol yn fyd-eang ac sy’n hyrwyddo arloesedd dur, gweithgynhyrchu clyfar, arloesedd iechyd a thechnoleg bwyd-amaethyddol.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith: "Yng Nghymru mae angen gwell dealltwriaeth arnom o sut mae ymchwil ac arloesedd yn annog cynhyrchedd a thwf. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi’r meysydd sy’n cynnig y cyfle gorau i dyfu ein heconomi, creu swyddi a datblygu sgiliau. Yn fy marn i, mae’r Archwiliad hwn yn rhan o sail dystiolaeth o asedau yng Nghymru, a gallwn ei ddefnyddio i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth.

"Mae economi de Cymru yn dod yn fwy soffistigedig a bydd yr Archwiliad yn adnodd fydd yn ein helpu i ddeall y sefyllfa bresennol a’r hyn sydd angen i ni ei wneud er mwyn symud ymlaen. Rydym yn croesawu’r Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd gan ei fod yn ein helpu ni i ddeall economi Cymru a’n galluogi i gynllunio ar gyfer buddsoddiadau’r dyfodol.”

Mae'r broses o gynnal yr SIA wedi datblygu ac atgyfnerthu rhwydweithiau rhwng prifysgolion, sefydliadau ymchwil ac arloesedd, busnesau a diwydiant.

Mae'r Archwiliad yn alinio'n agos â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer arloesedd lleol a thwf economaidd, gan amlygu fel enghraifft arbenigedd gan Brifysgol Caerdydd sy'n arwain y byd mewn ymchwil lled-ddargludydd cyfansawdd. Mae'r gallu arloesol hwn wedi llywio buddsoddiad hirdymor y Fargen Ddinesig yn CS Connected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi'i leoli yn ne Cymru.

Ychwanegodd yr Athro Hilary Lappin-Scott OBE, Cadeirydd Grŵp Noddwyr Gweithredol Crwsibl De Cymru a Rhag Is-Ganghellor Uwch ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae aelodau craidd y Brifysgol o’n consortiwm yn cydnabod fod gennym rôl hanfodol wrth drawsnewid perfformiad cynhyrchiant ein hardal. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar lefelau lleol, cenedlaethol ac yn y DU. A ninnau wedi gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol ers nifer o flynyddoedd, rydym yn rhannu’r un nod o drawsnewid economi Cymru, ac mae gwyddoniaeth ac arloesedd o’r radd flaenaf yn rhan ganolog o hynny.”

Dywedodd James Davies, Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru: “Mae’r cyfle a roddwyd i ni gan yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd (SIA) yn hynod amserol. Bydd partneriaeth Crwsibl De Cymru yn canolbwyntio ei ymdrechion a’i adnoddau ar ein meysydd rhagoriaeth arbenigol a gwahaniaethu lle gallwn arwain agendâu gwyddoniaeth ac arloesedd yn hyderus ac yn bendant – er lles Cymru a’r DU yn ehangach.”

Rhannu’r stori hon