Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Nyrsys Teulu

14 Hydref 2015

Building blocks logo

Mae ymchwil newydd yn cwestiynu rhaglen

Yn ôl gwaith ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd yn The Lancet, nid yw Partneriaeth Nyrsys Teulu'r Adran Iechyd (FNP), sy'n helpu mamau newydd yn eu harddegau yn Lloegr, yn dangos llawer o fudd o'i gymharu â gofal arferol, ac nid yw'n gost-effeithiol.

"Ar sail y fantais gyfyngedig i deuluoedd a welwyd yn y treial, ni ellir cyfiawnhau parhau i ddarparu rhaglen Partneriaeth Nyrsys Teulu yn y DU ar hyn o bryd," meddai Dr Michael Robling, o'r Ysgol Meddygaeth, fu'n arwain y gwaith ymchwil.

Mae rhaglen FNP yn cynnig ymweliadau cartref dwys gan nyrs arbenigol i ferched yn eu harddegau sy'n feichiog am y tro cyntaf. Prif nod y rhaglen yw gwella canlyniadau'r beichiogrwydd, yn ogystal ag iechyd a datblygiad plant a hunangynhaliaeth economaidd rhieni.

Datblygwyd rhaglen FNP yn yr Unol Daleithiau dros 35 mlynedd yn ôl, ac addaswyd y rhaglen i'w defnyddio yn Lloegr ar sail y dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod gwell iechyd cyn geni gan famau a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen, yn ogystal â chyfraddau beichiogi is wedi geni'r baban cyntaf, a chyfraddau cyflogaeth uwch.

Gwelwyd manteision tymor hwy hefyd: roedd yn ymddangos bod eu plant yn gwneud yn well yn yr ysgol, yn llai tebygol o ymwneud â throseddau ieuenctid, ac yn cael llai o ddamweiniau a phroblemau iechyd meddwl.

Gan ddechrau yn 2009, fe wnaeth cynllun peilot Building Blocks gofrestru menywod 19 oed neu iau a oedd yn feichiog am y tro cyntaf o 18 o safleoedd ledled Lloegr. Cafodd menywod eu cyfeirio ar hap i FNP, a oedd yn cynnwys hyd at 64 o ymweliadau cartref strwythuredig yn ystod y beichiogrwydd, hyd at ben-blwydd y plentyn yn ddwyflwydd, yn ogystal â gofal arferol gan y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol (823 o fenywod), neu i ofal arferol yn unig (822).

I fesur llwyddiant y rhaglen, edrychodd Dr Robling a'i gydweithwyr ar batrymau ysmygu'r mamau ar ddiwedd y beichiogrwydd, pwysau geni'r baban, achosion o feichiogrwydd ar ôl y cyntaf, ymweliadau brys â'r ysbyty hyd at ben-blwydd y plentyn yn ddwy, a dangosyddion eraill sy'n ymwneud â lles plant a mamolaeth.

Canfu'r ymchwilwyr nad oedd ychwanegu rhaglen FNP at wasanaethau gofal iechyd presennol yn cynnig dim manteision ychwanegol yn y tymor byr o ran y prif ganlyniadau a gafodd eu mesur. Roedd cyfran y menywod a oedd yn ysmygu ar ddiwedd y beichiogrwydd yr un fath yn y ddau grŵp (56%); roedd y pwysau geni ar gyfartaledd yn debyg (3,217g yn y grŵp FNP a 3,197g yn y grŵp gofal arferol); roedd cyfran y plant a oedd yn mynd i'r ysbyty mewn achosion brys yn debyg (81% gydag FNP a 77% gyda gofal arferol); ac nid oedd FNP na gofal arferol yn llwyddiannus wrth atal beichiogrwydd ar ôl y cyntaf - roedd dwy fenyw o bob tair yn y ddau grŵp yn feichiog eto o fewn dwy flynedd ar ôl cael y plentyn cyntaf.

Dywedodd Dr Robling: "Nid yw'r canlyniadau wedi dangos unrhyw fudd ychwanegol i'r mamau a gymerodd ran yn rhaglen FNP, ac mae'r rhaglen yn costio tua £1,993 yn ychwanegol i bob mam.

"Bydd angen gwerthuso'r teuluoedd a gofrestrwyd ar y treial yn barhaus er mwyn gweld a yw'r rhaglen yn gwella'r canlyniadau ar gyfer mamau a phlant yn y tymor hwy."

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.