Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn dal ei gafael ar Wobr Adnoddau Dynol am Ragoriaeth mewn Ymchwil

7 Mawrth 2019

HR excellence logo

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llwyddo i gadw ei gafael ar Wobr Adnoddau Dynol am Ragoriaeth Ymchwil ar ôl adolygiad allanol o’r ffyrdd y mae yn cefnogi ei staff ymchwil.

Mae Gwobr Adnoddau Dynol am Ragoriaeth Ymchwil yn dangos ymrwymiad sefydliad i weithredu’r Concordat er mwyn Cefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr.

Mae’r Concordat yn seiliedig ar yr egwyddor y bydd gwella cyfleoedd am ddatblygu a rheolaeth yrfaol i ymchwilwyr yn gwella maint, ansawdd ac effaith ymchwil er lles cymdeithas ac economi’r DU.

Prifysgol Caerdydd yw un o wyth prifysgol yn y DU sydd wedi dal ei gafael ar y Wobr ar ôl eu hadolygiad a gynhelir pob wyth mlynedd. Mae’r adolygiad allanol yn gofyn i sefydliadau amlygu eu llwyddiannau allweddol a’r cynnydd y maent wedi’i wneud dros y pedair blynedd ddiwethaf ac amlinellu eu strategaeth a’u dulliau mesur llwyddiant yn y cyfnod adolygu nesaf. Drwy ddal ei gafael yn y Wobr, mae’r Brifysgol wedi dangos ei hymrwymiad hirdymor i ddatblygiad gyrfaol ei hymchwilwyr.

Dywedodd yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Menter, “Roeddem yn un o brifysgolion cyntaf y DU i gyflwyno cais am Wobr Adnoddau Dynol am Ragoriaeth mewn Ymchwil, a’i hennill yn 2010. Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd ardderchog o ran y ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein staff ymchwil a’u datblygiad gyrfaol, ynghyd â gwella’r amgylchedd y maent yn gweithio ynddo. Dyma gydnabyddiaeth wych am yr holl waith caled, ac rwy’n hynod falch o bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni hyn.”

Ychwanegodd Dr Katy Huxley, Cadeirydd Cymdeithas Staff Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CURSA), “Ar ôl gweithio gyda’r Athro Kim Graham a’r Tîm Datblygu Ymchwilwyr i lunio’r cyflwyniad am Wobr Adnoddau Dynol am Ragoriaeth Ymchwil, mae mor ddymunol ein bod wedi cadw’r Wobr. Mae’r Wobr yn cydnabod gwaith y Brifysgol dros gefnogi datblygiad gyrfaol ei staff ymchwil. Bydd CURSA yn parhau i weithio gyda chydweithwyr i weithredu’r cynllun a datblygu cefnogaeth y sefydliad ar gyfer staff ymchwil ymhellach.”

Cynhaliwyd yr adolygiad allanol gan banel o adolygwyr ar y cyd.