Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd

4 Mawrth 2019

Medicines Discovery Institute team demonstrating interactive activity to children in white coats

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr sy'n darganfod meddyginiaethau.

Cymerodd Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ran yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd er mwyn rhannu eu gwaith o ddod o hyd i therapïau newydd. Roeddent hefyd am ymgysylltu â theuluoedd ynghylch y broses o ddatblygu cyffuriau.

Aeth gwyddonwyr o'r Sefydliad â gweithgareddau rhyngweithiol allan i strydoedd Caerdydd, i ddangos sut mae cyffuriau yn cael eu prosesu yn y corff a sut mae cyfansoddion newydd yn cael eu darganfod.

Roedd yr ŵyl yn ystod gwyliau hanner tymor, gyda digwyddiadau ymgysylltu gwyddoniaeth ar hyd a lled y brifddinas, yn ymdrîn â phynciau o wyddorau biofeddygol i seryddiaeth.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, rydym yn frwdfrydig ynglŷn â chydweithio â chymunedau a’u hannog i ymgysylltu â gwyddoniaeth.

"Mae gwyddoniaeth yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau bob dydd, a gall ganfod meddyginiaethau newydd wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl hefyd.

"Trwy fynd i ddigwyddiadau fel Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, gallwn siarad â phobl am yr hyn sy'n cael ei wneud wrth ddarganfod meddyginiaethau. Rydym hefyd yn gobeithio ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol i ddod o hyd i atebion ar gyfer problemau mwyaf y byd mewn cenedlaethau i ddod."

Rhannu’r stori hon