Ewch i’r prif gynnwys

Pobl a Phlanhigion

18 Chwefror 2019

Seed Box

Yr wythnos hon, ymunwch â ni ar gyfer lansiad arddangosfa ‘Planhigion a Phobl’ yn Oriel Hanes Natur, Amgueddfa Caerdydd ac adroddiad cyhoeddus cysylltiedig, ‘Rhannu Straeon, Rhannu Casgliadau.’

Mae’r arddangosfa a’r adroddiad yn deillio o leoliad gwaith cydweithredol rhwng y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ac Amgueddfa Cymru a ariannwyd gan Raglen Gwerthfawrogi Natur Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Mae gan gasgliadau bio-ddiwylliannol rôl gymdeithasol hollbwysig o ran datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o fioamrywiaeth. Mae’n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd planhigion wrth gefnogi bywoliaethau, hybu iechyd a lles, cynnal gwasanaethau ecosystemau, ac addasu i newid amgylcheddol byd-eang.  Yn ystod y lleoliad, gweithiodd Dr Poppy Nicol gyda’r Prif Guradur, Dr Heather Pardoe, ac aelodau eraill o dîm Botaneg Amgueddfa Cymru i ymchwilio i gasgliad botaneg economaidd yr Amgueddfa a sut y gallai ategu gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o fioamrywiaeth ymhlith y cyhoedd.

Mae casgliad botaneg economaidd Amgueddfa Cymru yn cynnwys dros 5,500 o sbesimenau planhigion meddyginiaethol, cynhyrchion bwyd, ffibrau, hadau, gymiau, resinau a llifynnau. Cafodd y rhan fwyaf o’r rhain eu caffael rhwng y bedwaredd ganrif a heddiw. Gan dynnu ar ganfyddiadau’r lleoliad, mae'r arddangosfa yn cynnig cipolwg ar y casgliad a rôl bwysig planhigion mewn cymdeithas.

Mae arddangosfa ‘Pobl a Phlanhigion’ yn amlygu rôl planhigion wrth gefnogi iechyd a lles cenedlaethau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn ogystal â phwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth - cnydau a dyfir a rhywogaethau gwyllt.

Mae’r adroddiad 'Rhannu Straeon, Rhannu Casgliadau' yn amlygu sut gallai casgliadau bio-ddiwylliannol wella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o fioamrywiaeth. Mae’n awgrymu bod deddfwriaeth ddiweddar Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) yn cynnig cyfle i Amgueddfa Cymrufod yn arloeswr byd-eang o ran curadu casgliadau bio-ddiwylliannol.

Dywedodd Dr Poppy Nicol “Nododd yr astudiaeth fod casgliad botaneg economaidd Amgueddfa Cymru o ddiddordeb i’r cyhoedd ac fe wnaethom nodi nifer o gyfleoedd i fod yn arloesol mewn casgliadau botaneg bio-ddiwylliannol ac economaidd gan gynnwys curadu sy’n cael ei lywio gan ymchwil; rhaglenni dysgu rhwng y cenedlaethau; a digideiddio arloesol a chyfranogol. Mae cydweithio ar draws disgyblaethau gyda chanolfannau dysgu yn benodol yn cynnig cyfleoedd gwych i rannu a gwella gwerth y casgliad"

Mae’r adroddiad yn cael ei lansio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar 19 Chwefror a bydd modd gweld arddangosfa Pobl a Phlanhigion yn oriel hanes natur yr Amgueddfa rhwng 6 Chwefror ac 16 Mawrth.

Rhannu’r stori hon