Ewch i’r prif gynnwys

Cardiff University becomes latest partner in global neuroscience research initiative

11 Chwefror 2019

A picture of the Canadian flag

Prifysgol Caerdydd yw’r partner diweddaraf ym mhrosiect Prifysgol Western, BrainsCAN. Dyma fuddsoddiad o $66 miliwn gan Lywodraeth Canada ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth. Rhoddir y buddsoddiad hwn drwy Gronfa Rhagoriaeth Ymchwil Canada First.

 Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU), bydd ymchwilwyr BrainsCAN a Phrifysgol Caerdydd yn creu prosiectau ymchwil niwrowyddoniaeth pwysig i ddatblygu asesiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’u cyflwyno ar gyfer rhoi diagnosis o anhwylderau’r ymennydd a’u trin.

“Rwyf wrth fy modd bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Coleg y Biowyddorau a Bywyd, Prifysgol Caerdydd a BrainsCAN, Prifysgol Western, Canada, wedi cael ei lofnodi” meddai’r Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch, Prifysgol Caerdydd. “Mae angen cydweithio’n rhyngwladol i leihau baich sylweddol anhwylderau’r ymennydd drwy wella sut rhoddir diagnosis ohonynt a sut maent yn cael eu trin. Mae’r ddau sefydliad yn rhannu arbenigedd ymchwil sylweddol a synergyddol ym meysydd niwrowyddoniaeth, delweddu’r ymennydd, iechyd meddwl, niwroddatblygiad a dementia.”

“Mae’r bartneriaeth ffurfiol hon o ganlyniad i berthynas hir ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd,” meddai Dr  Lisa Saksida, Cyfarwyddwr Cyd-wyddonol BrainsCAN. “Rydym wrth ein boddau’n adeiladu ar y bartneriaeth hon a chydweithio ar ymchwil niwrowyddoniaeth wybyddol sy’n arweiniol ar lefel fyd-eang er budd y rheini sy’n cael eu heffeithio gan anhwylderau a chlefydau’r ymennydd.”

Yn rhan o’r bartneriaeth hon, bydd gan ymchwilwyr Caerdydd gyfle i weithio’n agos gydag ymchwilwyr BrainsCAN er mwyn rhannu adnoddau ac arbenigedd. Hefyd, bydd cymrodyr a myfyrwyr ôl-ddoethurol o’r ddau sefydliad yn elwa ar gael defnyddio prif ymchwilwyr o fri o Western a Chaerdydd.

“Bydd ein partneriaeth newydd yn rhoi’r cyfle i staff a myfyrwyr o’r ddau sefydliad gydweithio’n arloesol ar sail eu harbenigeddau a’u gwybodaeth,” ychwanegodd yr Athro Graham. “Bydd hyn yn helpu i greu cysylltiadau ymchwil cryfach rhwng Cymru a Chanada, yn ogystal â chyflwyno ymchwil er budd y byd i gleifion a chymdeithas”.

Hefyd, bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn gallu elwa ar weithio mewn sefydliadau eraill ar draws y byd sydd â memoranda gyda BrainsCAN. Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan RIKEN ar gyfer Ymchwil i’r Ymennydd yn Japan a Phrifysgol Yonsei yn Ne Corea.

Rhannu’r stori hon