Ewch i’r prif gynnwys

Un o 100 Cyflogwr Gorau Stonewall

21 Ionawr 2019

Rainbow flag

Mae Prifysgol Caerdydd wedi codi i’r 11eg safle yn arolwg blynyddol Stonewall o 100 cyflogwr gorau’r DU i bobl LGBT+.

Mae’r Brifysgol dri safle’n uwch na’r llynedd (14eg) ac yn parhau i ddringo’r rhestr yn gyflym. Mae hefyd yn parhau i fod y Brifysgol uchaf o’r DU ar y rhestr.  

Mae 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn archwiliad blynyddol o ddiwylliant y gweithle ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, ac mae'n cynnwys y cyflogwyr sy'n perfformio orau ym Mynegai Stonewall ar gyfer Cydraddoldeb yn y Gweithle.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi codi i’r 11eg safle yn arolwg 100 Cyflogwr Gorau Stonewall.

Mae’r llwyddiant yn deyrnged i holl waith caled ac ymroddiad llawer o aelodau o staff y Brifysgol. Mae hefyd yn ddatganiad gweladwy i ddarpar staff a myfyrwyr yn ogystal â’n staff a’n myfyrwyr presennol bod cydraddoldeb LGBT+ yn wirioneddol bwysig.

Yr Athro Colin Riordan Prifysgol Caerdydd

Ychwanegodd y Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Karen Holford sydd ar flaen y gad o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant dros y Brifysgol: "Er gwaethaf ein perfformiad rhagorol, nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau. Rydym yn parhau i weithio'n galed i wneud yn siŵr bod ein holl bolisïau ac arferion yn gynhwysol.  

"Yn ddiweddar, rydym wedi dod yn un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Fyd-eang Stonewall ac rydym yn herio ein hunain i adolygu gwaith rhyngwladol y Brifysgol a gwneud yn siŵr bod ein myfyrwyr a’n staff rhyngwladol, yn ogystal â’r rhai LGBT+ yn cael eu derbyn yn ddieithriad.

"Er mor braf gweld yw ein gweld ar ymylon y deg uchaf, byddai’n fwy bendigedig byth pe gallem weithio gyda’n gilydd er mwyn bod yn eu plith y flwyddyn nesaf.”

Gwnaeth y Brifysgol lwyddo hefyd i gadw ei statws o fod yn Gyflogwr Gwych ar gyfer Pobl Draws a chafodd Enfys, rhwydwaith LGBT+ staff y Brifysgol, ei chydnabod yn Grŵp Rhwydwaith Uchel ei Barch.

Stonewall 2019

Dywedodd Karen Cooke, sy’n cadeirio Enfys: “Mae cyrraedd yr unfed safle ar ddeg yn y Mynegai allan o’r 445 o sefydliadau a gyflwynodd gais eleni yn gamp wirioneddol. Dylai pawb sy’n gwisgo’u cortyn gwddf, sy’n rhoi arwyddion Cyfeillion Enfys i fyny, sy’n cefnogi cydweithwyr a myfyrwyr neu sy’n gallu bod eu hunain yn y gweithle fod yn falch ohoni.

“Hoffwn ddiolch i’n swyddogion myfyrwyr LGBT+ a chymuned y myfyrwyr LGBT+ yn arbennig. Mae’n bleser gweithio gyda nhw ac maent yn haeddu cymaint o’r clod â’n staff.”

Rhannu’r stori hon