Ewch i’r prif gynnwys

Cwmni addysg feddygol yn cipio gwobr nodedig yn y DU

11 Ionawr 2019

Medicentre award
Graddio Learna: o’r chwith i’r dde: Yr Athro Ian Weeks a’r Athro Keith Harding, Deoniaid Arloesedd Clinigol, Ysgol Meddygaeth Caerdydd a’r Athro Steve Davies, Cadeirydd, Learna Ltd, gyda’r wobr

Mae Learna Cyf, un o brif gwmnïau addysg gofal iechyd Caerdydd, wedi ennill gwobr arian yn y gystadleuaeth bwysicaf i’r sector addysg.

Yn y Gwobrau Technolegau Addysg a gynhelir yn Llundain, dim ond i gwmni addysgu ieithoedd ar-lein rhyngwladol, Speexx, y daeth Learna yn ail yn y categori Rhaglen Addysgu Ar-lein Orau.  

Mae Learna, sydd wedi'i leoli yn Medicentre Caerdydd – ac yn eiddo i Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – yn cynnig cyrsiau gofal iechyd ôl-raddedig ledled y byd.

Dywedodd yr Athro Steve Davies, Cadeirydd Learna a ffisegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, “Rydym yn falch o gael ein cydnabod ar lwyfan mor amlwg am ein cyrsiau dysgu o bell. Dyma gamp enfawr i ni, a ninnau’n gwmni bach. Fe guron ni gwmnïau gwerth biliwn o bunnau fel Kaplan, Swiss GE a Knect365 Learning, gan ddod yn ail i gwmni mawr rhyngwladol. Ein cenhadaeth yw gwella gofal iechyd byd-eang drwy addysg feddygol, ac rydym wedi cael blwyddyn wych yn helpu gweithwyr gofal iechyd i gyflawni eu nodau datblygu.”

Cafodd Learna ei sefydlu yn 2010 ac mae’n cyflogi 27 o bobl. Mae’n canolbwyntio ar gyflwyno amrywiaeth fwyfwy eang o adnoddau addysg ar-lein hygyrch o safon uchel i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dywedodd yr Athro Davies, "Mae amser mor brin i glinigwyr fel bod addysg ôl-raddedig a’r wybodaeth arbenigol sy’n dod yn ei sgîl, wedi bod yn anodd ei chael yn y gorffennol. Rydym am newid hynny. Rheoli clefydau cronig yw un o’r heriau byd-eang mwyaf o ran effaith ar iechyd a defnydd o adnoddau gofal iechyd. Rydym ni, a llawer o bobl eraill, o’r farn bod addysg ar-lein yn allwedd hanfodol yn y frwydr yn erbyn clefydau, drwy ein helpu i wella sut mae cyflyrau’r cleifion yn cael eu trin.”

Llwyddiant ysgubol gan Medicentre yw Learna, ac mae’n neidio o’i nyth i gartref newydd yn y ddinas.

Meddai Dr Justin John, Swyddog Meithrin Busnesau ym Medicentre Caerdydd, “Mae’n drist ffarwelio â Steve a’i dîm, ond rydym wrth ein boddau bod Learna wedi datblygu cyn belled fel nad oes angen y gwasanaethau na’r cyfleusterau meithrin sydd ar gael yma bellach. Bydd Learna’n mynd o nerth i nerth, ac edrychwn ymlaen at glywed am gampau mwy byth yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

Find out about our new networks, joint-ventures and working partnerships.