Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Inclusive Networks

3 Medi 2015

ina

Y Brifysgol yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr

Mae'r Brifysgol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr mewn digwyddiad newydd sy'n dathlu ymdrechion grwpiau rhwydwaith sy'n cefnogi amrywiaeth - Gwobrau Inclusive Networks.

Fe wnaeth Enfys, sef rhwydwaith staff a myfyrwyr ôl-raddedig LGBT y Brifysgol, ddangos y ffilm Pride ar sgrin fawr, ac mae'r digwyddiad hwn wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Digwyddiad Rhwydwaith y Flwyddyn.

Dangoswyd y ffilm, sy'n ymwneud â grŵp o ymgyrchwyr hoyw a lesbiaidd a gefnogodd lowyr Cymru yn ystod streic 1984/85, fel rhan o Fis Hanes LGBT, a denwyd y gynulleidfa fwyaf erioed ar gyfer unrhyw un o ddigwyddiadau Enfys.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyn-löwr o Gymru, Dai Donovan, un o'r bobl wreiddiol i ysbrydoli'r ffilm. Cymerodd ran mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ar ôl dangos y ffilm.

Mae Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Colin Riordan, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Hyrwyddwr Rhwydweithiau y Flwyddyn.

Mae gan yr Athro Riordan gyfrifoldebau ffurfiol ac amrywiol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth y Brifysgol, ac mae wedi bod yn amlwg iawn yn ei gefnogaeth ar gyfer Enfys. Mae ei ymgysylltiad â'r rhwydwaith wedi codi proffil y rhwydwaith ac wedi caniatáu iddo fodloni ei amcanion.

Mae'r Brifysgol yn hynod falch o gael ei rhoi ar restr fer y gwobrau hyn, sef y gwobrau cyntaf i roi sylw ar raddfa mor eang i grwpiau rhwydwaith. Cafwyd dros 450 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau, ac maent yn dathlu ac yn gwobrwyo gwaith ac effaith gadarnhaol grwpiau rhwydwaith o bob agwedd ar amrywiaeth ac ar draws pob sector.

Mae'r beirniaid yn cynnwys Vanessa Vallely (sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr We Are The City, ac awdur); John Amaechi OBE (cyn chwaraewr pêl-fasged NBA, awdur a rheolwr gyfarwyddwr Amaechi Performance Systems); Elly Barnes (sylfaenydd a phrif swyddog gweithredol Educate and Celebrate); Scott Durairaj (pennaeth Cynhwysiant ac Amrywiaeth Gweithlu GIG Lloegr), yn ogystal â llawer mwy o bobl ysbrydoledig. 

Cyhoeddir yr enillwyr mewn derbyniad gwobrwyo ar 19 Tachwedd, yn lleoliad eiconig Band on the Wall ym Manceinion.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Gwobrau Inclusive Networks

Rhannu’r stori hon