Ymgyrch Myfyrwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yn y Cynulliad
25 Hydref 2018
Mae ymgyrch gan Brifysgol Caerdydd sy’n ceisio rhoi llais i fyfyrwyr du a lleiafrifoedd ethnig (BME) wedi cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.
Mae arddangosfa #ITooAmCardiff yn cynnwys lluniau anferth o fyfyrwyr BME, ynghyd â'u geiriau ysbrydoledig eu hunain.
Mae'n seiliedig ar ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a grëwyd gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Harvard.
Mae'r arddangosfa wedi'i noddi gan Vaughan Gething AC, a gellir galw heibio iddi yn Adeilad y Pierhead, y Cynulliad Cenedlaethol, ym Mae Caerdydd rhwng 26 Hydref a 30 Tachwedd 2018.
Dywedodd Mr Gething: "Rwy'n falch o noddi'r arddangosfa #ITooAmCardiff fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon. Mae'r arddangosfa yn dangos cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Wrth ddilyn taith myfyrwyr du a lleiafrifoedd ethnig (BME), mae'r arddangosfa’n rhoi llais pwerus i rai o'r materion sy'n wynebu myfyrwyr BME ar y campws ac yn codi ymwybyddiaeth ohonynt.
"Rwy’n dymuno pob llwyddiant i'r arddangosfa wrth iddi barhau ar ei thaith."
Mae'r arddangosfa'n rhan o Fis Hanes Pobl Dduon 2018, sy'n cael ei gynnal yn ystod mis Hydref.
Swyddog Prosiect Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Prifysgol Caerdydd, Susan Cousins, sydd y tu ôl i ymgyrch #ITooAmCardiff.
Tarodd ar y syniad o ddefnyddio lluniau a dyfyniadau myfyrwyr BME i roi llwyfan iddynt, a chodi ymwybyddiaeth o'r agweddau amrywiol ar daith myfyriwr BME.
Geiriau'r myfyrwyr eu hunain yw'r dyfyniadau.
Mae’r arddangosfa eisoes wedi’i gosod yn y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, ond dyma'r tro cyntaf iddi fynd ar daith.
Mae Susan yn awyddus i fynd â’r ymgyrch y tu allan i'r Brifysgol ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli cynulleidfa ehangach yn Adeilad y Pierhead.
Yn ôl Susan: "Mae pobl yn dwlu ar yr arddangosfa am ei bod yn cynrychioli agweddau gwahanol mewn modd mor bwerus. Mae myfyrwyr a staff BME yn y Brifysgol wedi ymateb yn gadarnhaol, gan groesawu'r negeseuon sy'n cymell myfyrdod.
"Daeth cryn dipyn o bobl ifanc BME nad oeddent yn fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i weld yr arddangosfa yn y Brifysgol. Roeddent o'r farn ei bod yn anhygoel a bod Prifysgol Caerdydd wedi cyflawni rhywbeth anarferol drwy gyrraedd myfyrwyr BME, a rhoi llais iddynt.
"Rydw i am i’r arddangosfa gael ei gweld mewn cynifer o leoedd â phosibl a hoffwn i bobl gysylltu â mi os ydynt eisiau ei chynnal.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys digwyddiad ar 9 Tachwedd gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford, Vaughan Gething AC, Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb, a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru a Lleiafrifoedd Ethnig.