'Cartref Arloesedd' newydd i Fusnesau Bach a Chanolig
23 Hydref 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â phum prifysgol ymchwil-ddwys arall i helpu busnesau bach a chanolig i arloesi yng Nghymru.
Bydd Caerdydd yn cymryd rhan yn Rhaglen Uwchraddio SETSquared, yn dilyn buddsoddiad gwerth £1m gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a £437k arall gan y Brifysgol.
Bydd y rhaglen yn helpu BBaChau sy'n tyfu'n dda i ddatblygu eu galluoedd Ymchwil a Datblygu (R&D) a manteisio ar gyfleusterau arloesol a thalent academaidd y Brifysgol.
Adeilad Arloesedd Canolog y Brifysgol ar Gampws Arloesedd Caerdydd fydd yr hyb lleol ar gyfer gweithgareddau’r Rhaglen.
Mae rhaglen ' SETsquared ' yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerwysg, Southampton a Surrey, sy'n cael ei chefnogi gan Research England.
Mae'n cynnig portffolio o adnoddau wedi'u targedu a'u teilwra i helpu BBaChau twf uchel i gynyddu eu cystadleurwydd a'u cynhyrchiant, gyda mynediad at fuddsoddiad, corfforaethol, cyflogeion posibl a chyllid grant R&D cydweithredol.
Mae cymryd rhan yn y Rhaglen Uwchraddio yn cefnogi nod Caerdydd i gynyddu nifer ei phartneriaethau strategol, darparu llif o sefydliadau sydd â’u bryd ar gynyddu eu gweithgareddau ymchwil a datblygu, gan greu twf economaidd ar gyfer Cymru a'r DU.
Mae hefyd yn ymestyn cyrhaeddiad gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth Caerdydd ac yn cael effaith yn ardaloedd de-orllewin Lloegr a thu hwnt. Mae hyn yn adeiladu ar y cyfleoedd a nodwyd yn Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru, a ddarparwyd ar gyferyr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Bydd yr arian yn cyfrannu at gronfa ysgogi sy'n canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig er mwyn helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cydweithio â sefydliadau addysg uwch, gyda'r potensial i ysgogi cymorth ychwanegol gan asiantaethau arloesedd cyhoeddus a chryfhau'r berthynas ag arweinwyr arloesedd y diwydiant a chwmnïau angori o Gymru.
Mae SETsquared, sydd wedi'i rhestru fel Deorydd Busnes Gorau'r Byd (a reolir gan brifysgol), wedi cefnogi dros 2,500 o gwmnïau technoleg uchel sy'n dechrau i ddatblygu a chodi mwy na £1.5bn o fuddsoddiad, ac mae wedi cyfrannu dros £3.8bn at economi'r DU.
Meddai Simon Bond, Cyfarwyddwr Arloesedd yn SETsquared: "Mae'r rhaglen uwchraddio’n dod â manteision i academyddion drwy gydweithrediad BBaChau, gan ddarparu llwybr cyflym at effaith ac arian. Bydd Caerdydd yn gweithio gyda grŵp dethol o brifysgolion sy'n angerddol am greu gwybodaeth a'i heffaith. Mae gweithio ar y cyd gyda chwmnïau hyblyg bach yn ein galluogi i gymhwyso ein gwybodaeth yn gyflym i heriau'r byd go iawn. "
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: "Roeddem yn falch o allu dyfarnu i Brifysgol Caerdydd £1,000,000 o'n cyllid cyfalaf ar gyfer Ymchwil ac Arloesi er mwyn eu galluogi i adeiladu ymhellach ar eu gwaith cydweithredol gyda phartneriaid allanol ac ymuno â'r rhaglen lwyddiannus hon sydd eisoes wedi creu presenoldeb o amgylch Lloegr. Drwy’r Ganolfan Arloesedd, yn unol â nodau strategol Llywodraeth Cymru, bydd y Brifysgol yn rhoi mynediad i’w groesawu i'w harbenigedd ymchwil i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau eraill sydd am roi hwb pellach i'w gallu i gystadlu.”
Y Ganolfan Arloesedd, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, fydd drws ffrynt y Brifysgol i fusnes. Bydd yn helpu i droi ymchwil academaidd yn gynnyrch, prosesau, sgîl-gynhyrchion a busnesau newydd. Bydd y ganolfan arloesedd 12,000 metr sgwâr yn gartref pwrpasol i arloesedd ar gyfer tua 800 o ymchwilwyr, entrepreneuriaid, ymarferwyr arloesedd, busnes a phartneriaid wrth galon Campws Arloesedd £300m y Brifysgol.