Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd yn dweud y bydd cytundeb ariannol Cymru yn dod â channoedd o filiynau o bunnoedd ychwanegol i goffrau ei llywodraeth

13 Chwefror 2017

Wales

Gallai cyllideb Llywodraeth Cymru gynyddu dros £120 miliwn y flwyddyn erbyn 2028, a £600 miliwn dros y degawd nesaf, o ganlyniad i gytundeb newydd y Fframwaith Ariannol i Gymru.

Dyma brif ganfyddiad adroddiad newydd, Fair Funding for Taxing Times?, mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol wedi’i gyhoeddi heddiw (13eg Chwefror 2017). Mae'r adroddiad yn asesu'r cytundeb ariannu newydd rhwng Trysorlys EM a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016.

Daw’r arian ychwanegol i Gymru, o’i gymharu â’r hyn y byddai’n ei dderbyn trwy Fformiwla Barnett, o ganlyniad i ailbennu lefel isaf ariannu er mwyn gwneud iawn am yr incwm mae disgwyl y bydd y wlad yn ei golli trwy newid y grant crynswth ar ôl datganoli pwerau trethu.

Yn eu hadroddiad, mae'r awduron yn amlygu'r canlynol:

  • Ar ôl datganoli tua £2.5 biliwn o refeniw trethi i Gymru, caiff swm cyfatebol ei dorri o grant bloc cyfredol Cymru. Yna bydd yr Addasiad i'r Grant Bloc yn newid o flwyddyn i flwyddyn ar sail yr hyn sy'n digwydd i refeniw cyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu y bydd cyflawniad cymharol refeniw Cymru (a pholisi trethi Llywodraeth Cymru) yn dod yn bwysig iawn i gyllideb Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf. Caiff yr Addasiadau Hyn i'r Grant Bloc eu cyfrif ar wahân ar gyfer pob band treth incwm, gan gydnabod y risgiau penodol o'r lefel incwm is yng Nghymru.
  • O achos y dull y cytunir arno o weithredu'r Addasiad i'r Grant Bloc, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo risg refeniw sy'n gysylltiedig â phoblogaeth y wlad. A chymryd bod poblogaeth Cymru wedi bod yn tyfu'n arafach na phoblogaeth Lloegr a Gogledd Iwerddon ers peth amser, a bod disgwyl y bydd yn parhau felly, gallai Cymru fod ar ei cholled o achos  twf poblogaeth arafach, hyd yn oed os yw refeniw y pen yng Nghymru'n tyfu'r un mor gyflym ag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  • Mae'r cytundeb yn cyflwyno ‘ffactor sy'n seiliedig ar anghenion’ newydd yn Fformiwla Barnett, hefyd. 0 2018-19, bydd cynyddrannau a drosglwyddir i gyllideb Cymru 5% yn uwch nag y bydden nhw o dan Fformiwla Barnett ar ei ffurf wreiddiol. Er bod cyllid cymharol Cymru ar hyn o bryd yn uwch na'r angen cymharol a amcangyfrifwyd gan Gomisiwn Holtham, mae'r lluosydd wedi'i lunio i ofalu bod cyllid cymharol y pen yng Nghymru yn aros dros 115% o’r lefel yn Lloegr. Ar y pwynt lle mae cyllid y pen yng Nghymru yn cydgyfeirio i lawr i'r lefel hon, bydd y ffactor sy'n seiliedig ar anghenion yn cynyddu o 105% i 115%. Dan ragdybiaethau rhesymol o wariant a thwf poblogaeth, bydd y 'cyfnod pontio' hwn lle bydd y lluosydd yn 105% yn para am ddegawdau.
  • A thybio y bydd twf gwariant yn Lloegr yn dychwelyd i 4% y flwyddyn ar ôl i'r cyfnod o lymder ddod i ben, a bod twf poblogaeth yn cyd-fynd â'r rhagfynegiadau cyfredol, bydd y cyllid ychwanegol a ddarperir gan y ffactor sy'n seiliedig ar anghenion yn gwneud mwy na gorbwyso colledion refeniw sy'n gysylltiedig â phoblogaeth. Gyda'i gilydd, gallai hyn olygu y bydd bron £600 miliwn yn fwy ar gael dros 10 mlynedd cyntaf y cytundeb na phe bai Llywodraeth Cymru'n parhau i gael ei chyllido gan Fformiwla Barnett fel y mae ar hyn o bryd.

Meddai Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd:

"Mewn termau ariannol pur, mae'r cytundeb yn fargen dda i Lywodraeth Cymru, gyda llawer mwy o gyllid yn debygol o fod ar gael o ganlyniad i newidiadau yn ei chyllid grant bloc a gwariant cyfalaf ychwanegol o ganlyniad i gynnydd yn y pwerau benthyca.”

“Gan y bydd Llywodraeth Cymru ar ei cholled os yw ei chyllid yn tyfu’n arafach o achos twf arafach yn y boblogaeth, fodd bynnag, bydd yn anos cymharu ei chyflawniad o ran rheoli’r cyllid a ddaw trwy drethi. Bydd rhagor o dryloywder a gwybodaeth gyllidebol am y grant crynswth sylfaenol, cyllid datganoledig a’r newidiadau i ddarparu ar gyfer datganoli trethi yn hanfodol ynghylch hybu atebolrwydd ariannol a helpu pawb i ddeall newidiadau yn y gyllideb bob blwyddyn. Yn yr un modd, dylid rhoi i bob trethdalwr adroddiad sy’n nodi’n eglur faint mae wedi’i dalu i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.”

Meddai David Phillips, Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol, a chydawdur yr adroddiad,

"Er bod cynnwys elfen sy'n seiliedig ar anghenion yn Fformiwla Barnett yn rhywbeth i'w groesawu, nid yw'r cytundeb yn darparu ar gyfer diweddaru'r asesiad o anghenion cymharol yn y dyfodol. Hyd yn oed ar adeg ei gyflwyno, bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar asesiad sydd eisoes yn ddeg oed. Gallai hyn greu tensiwn, os daw i'r amlwg bod anghenion cymharol Cymru'n newid, ac felly mae'r cytundeb yn annhebygol o roi terfyn ar y ddadl am fframwaith cyllidol Cymru.

"Ac edrych ar draws y deyrnas gyfan, mae trefniadau ariannu datganoledig yn ymddangos yn fwyfwy anghymesur a neilltuol. Bydd gwahaniaethau mawr bellach yn ehangder a threfn trethi datganoledig a threthi a gedwir yn ôl ym mhob gwlad, yn y modd y pennir ac addasir eu grantiau crynswth dros amser ac yng ngallu pob llywodraeth ddatganoledig i drefnu benthyciadau a rheol ei chyllideb."

Llwytho’r adroddiad i lawr

Rhannu’r stori hon