Ewch i’r prif gynnwys

Diolch, #TîmCaerdydd

16 Hydref 2018

Dean Fletcher and family
#TeamCardiff member Dean Fletcher with his wife Katie and daughter Evie

Mewn cyfnod o dristwch mawr, hoffai’r Brifysgol fynegi ei diolch i aelodau #TîmCaerdydd a gymerodd ran yn Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd am eu llwyddiannau anhygoel.

Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad wedi’u tristáu’n arw gan farwolaeth drasig dau redwr: Ben McDonalds a Dean Fletcher (BSc 2007), aelod o #TîmCaerdydd, a raddiodd o Ysgol Busnes Caerdydd.

Roedd Caerdydd, fel dinas ac fel Prifysgol, wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd Dean.

Ar ôl symud i brifddinas Cymru yn 2004, fe gadwodd mewn cysylltiad â grŵp clos o ffrindiau o’i gyfnod fel myfyriwr yn byw yng Ngogledd Tal-y-bont a thrwy ei astudiaethau. Ar ôl graddio, arhosodd yn y ddinas i ddechrau ar yrfa lwyddiannus mewn cyfrifeg.

Yn ystod ei amser yno, fe wnaeth gwrdd â Katie (nee Punter) (BScEcon 2010) a raddiodd o Gaerdydd gydag ef, ac fe briododd y ddau. Symudon nhw gyda’i gilydd i Gaerwysg a dechrau teulu, gyda’u merch fach Evie yn cyrraedd y llynedd.

Disgrifiwyd Dean gan Katie fel “gŵr a thad anhygoel” gyda’i deulu a’i ffrindiau yn brif ffynhonnell o hapusrwydd a chymhelliant iddo.

Dywedodd yr Athro Karen Holford (PhD 1987), Dirprwy Is-Ganghellor: “Mae #TîmCaerdydd a chymuned ehangach y Brifysgol wedi’u heffeithio’n fawr gan farwolaeth drasig Dean Fletcher.

“Roedd Dean yn rhedeg er mwyn helpu i godi arian ar gyfer ymchwil flaenllaw mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl: bydd ei ymdrechion o fudd i gleifion a theuluoedd am flynyddoedd i ddod.

“Roedd ei farwolaeth gynnar yn eithriadol o drist. Yn ystod cyfnod mor anodd, mae perthynas unigryw a’r teimlad o gymuned a gaiff ei greu gan #TîmCaerdydd wedi bod yn amlwg.

Rydym wedi ein cyffwrdd o weld cynifer o aelodau #TîmCaerdydd – ynghyd â rhedwyr eraill; cynfyfyrwyr, staff a myfyrwyr Caerdydd; ac aelodau o’r cyhoedd – wedi dewis cyfrannu at ymdrechion codi arian Dean. Diolch am eich cefnogaeth.

Yr Athro Karen Holford Professor

“Diolch hefyd am eich gwaith caled, eich holl ymarfer a’ch ymroddiad. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr – nid yn unig i’n hymchwil, ond i’n helpu ni i gefnogi ein gilydd ar adeg o dristwch a cholled.”

Hyd yma, mae carfan 2018 #TîmCaerdydd wedi codi £74,000 ar gyfer ymchwil canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl a gynhelir yn y Brifysgol.

Mae’r Brifysgol dan deimlad o dderbyn cynifer o syniadau ac awgrymiadau am sut i gofio a dathlu bywyd Dean yn y ffordd orau, a byddant yn cael eu hystyried gyda’i deulu maes o law.

Rhannu’r stori hon