Ewch i’r prif gynnwys

Dros £400 wedi’i godi ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth

10 Hydref 2018

Cardiff Half Marathon 2017 start line

Mae staff o'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi codi dros £400 ar gyfer ymchwil i ganser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl trwy gymryd rhan yn un o rasys ffordd fwyaf y DU.

Rhedodd yr Athro Simon Ward a Lauren Cockayne Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul Hydref 7, ras 13.1 milltir o amgylch tirnodau eiconig y brifddinas, i godi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl.

Ymunodd Cyfarwyddwr y Sefydliad a'r Swyddog Gweinyddol â dros 20,000 o redwyr ar y llinell gychwyn, gyda'r nod o godi arian ar gyfer Ymchwil Prifysgol Caerdydd i rai o'r problemau iechyd mwyaf sy'n wynebu poblogaeth y byd.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: "Gwnaethom benderfynu redeg Hanner Marathon Caerdydd gyda #TîmCaerdyddgan fod niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl yn rhan annatod o’n gwaith.

"Yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, ein nod yw troi ymchwil wyddonol arloesol yn feddyginiaethau newydd a all wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cleifion.

"Mae cyfran helaeth o'r gwaith a wnawn yn canolbwyntio ar ddod o hyd i therapïau newydd ar gyfer clefydau'r system nerfol ganolog, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, dementia a chyflyrau niwrolegol.

"Rydym yn hynod falch o godi  £460, gan y bydd hwn yn mynd i ariannu ymchwil hanfodol a fydd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl."

Rhannu’r stori hon