Ewch i’r prif gynnwys

Rhedeg yn ôl-troed y goreuon

3 Hydref 2018

Cardiff Half Marathon 2017 start line

Bydd staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr yn rhedeg yn ôl-troed y goreuon eleni, yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.

Mae’r ras ddydd Sul 7 Hydref yn cynnal Pencampwriaethau Hanner Marathon y Gymanwlad, gyda’r timau gorau o bob cwr o’r byd yn cystadlu o flaen 25,000 o redwyr y ras dorfol fydd yn dilyn yn eu sgîl.

Mae digwyddiad 2018 yn dathlu 60 mlynedd ers i Gemau’r Ymerodraeth – a elwir bellach yn Gemau’r Gymanwlad – gael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Unwaith eto, Prifysgol Caerdydd yw un o brif noddwyr Hanner Marathon Caerdydd ac o ganlyniad, mae’n dwyn y teitl.

Ymhlith y rhedwyr yn y ras dorfol fydd 350 o redwyr #TîmCaerdydd, sef tîm y Brifysgol. Bydd hyn yn cynnwys staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a’r cyhoedd.

Mae ein rhedwyr yn codi arian i ymchwil y Brifysgol i ganser a niwrowyddoniaeth/iechyd meddwl.

Mae #TîmCaerdydd wedi codi dros £100,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Karen Holford, ymhlith y rhai fydd yn cychwyn y ras, ynghyd â Rhag Is-Ganghellor y Farwnes Jenny Randerson.

Dywedodd yr Athro Holford: “Hoffwn i ddiolch i’n rhedwyr #TîmCaerdydd am ymroi i ymarfer dros fisoedd hir ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n mwynhau’r diwrnod ac yn cwblhau’r cwrs yn ddiogel.

“Rwy’n falch iawn bod y Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi ail hanner marathon mwyaf y DU ac un o brif ddigwyddiadau’r ddinas.”

Eleni, bydd #TîmCaerdydd yn cynnwys yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, sy’n rhedeg i godi arian dros ymchwil y Brifysgol i ganser.

Cafodd gwraig yr Athro Allemann, Lesley, ddiagnosis o fath ymosodol o ganser a dim ond drwy gyfrwng treial clinigol yr oedd modd cynnig y driniaeth oedd ei hangen arni.

Yn y pen draw, fe wnaeth Lesley wella'n llwyr.

Mae’r Athro Judith Hall yn rhedeg hefyd i godi arian dros Brosiect Phoenix y Brifysgol, y mae’n ei arwain. Mae’r prosiect yn gweithio gyda Phrifysgol Namibia i leihau tlodi, hyrwyddo iechyd a chefnogi datblygiad amgylcheddol cynaliadwy.

Bydd llawer o staff a myfyrwyr eraill y Brifysgol yn gwirfoddoli mewn rolau pwysig i sicrhau bod y diwrnod yn mynd rhagddo'n llyfn.

Unwaith eto, mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ac Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal ymchwil sy’n ystyried arferion teithio a gwario’r rhedwyr.

Mae’r astudiaeth o 2017 yn awgrymu y gallai cludiant cyhoeddus cynharach a mwy mynych ar ddiwrnod y ras, mentrau rhannu ceir, a digon o gyfleusterau diogel i storio beiciau annog y rhedwyr i deithio mewn modd mwy cynaliadwy.

Defnyddiodd trefnwyr rasys Run 4 Wales y canfyddiadau er mwyn cynllunio’r digwyddiad eleni.

Yn ogystal, datgelodd yr ymchwil o 2017 i redwyr wario £2.3 miliwn yn ystod eu hymweliad â Chaerdydd.

Bydd y ras eleni yn dathlu ei phymthegfed pen-blwydd ac yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC Wales a thrwy’r botwm coch ledled y DU.

Yn ogystal â'r brif ras ddydd Sul, cynhelir Gŵyl Redeg i bob oed ddydd Sadwrn 6 Hydref.

Bydd pabell Prifysgol Caerdydd ym mhentref y ras yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl ar y ddau ddiwrnod.

Rhannu’r stori hon