Ewch i’r prif gynnwys

Trechu troseddu

31 Gorffennaf 2015

Dau heddweision

Mae arbenigwyr y Brifysgol yn ymuno â'r Rheolaeth Gwrthderfysgaeth Genedlaethol a heddlu'r DU er mwyn manteisio i'r eithaf ar dechnoleg newydd ar gyfer plismona.

Bydd y Ganolfan Ddatblygu Ymchwil, Dadansoddiad a Chyfathrebu Ffynhonnell Agored newydd (OSCAR: Open Source Communications, Analytics and Research) yn cael ei chydlynu drwy Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu (UPSI), yn y Brifysgol, a bydd yn dwyn academyddion ac ymarferwyr yr heddlu ynghyd i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ymchwil ar y defnydd o wybodaeth ffynhonnell agored - data cyhoeddus y gellir cael gafael arno heb ddefnyddio dulliau cudd. 

Dywedodd Cyfarwyddwr UPSI, yr Athro Martin Innes, sy'n awdurdod blaenllaw ar blismona a rheolaeth gymdeithasol: "Rydym yn gwybod fod technolegau newydd fel y cyfryngau cymdeithasol yn gweddnewid y ffyrdd y mae pobl yn ymwneud â'i gilydd, yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'i gilydd, ac rydym yn fwyfwy ymwybodol bod datblygiadau o'r fath yn rhoi heriau a chyfleoedd i'r maes plismona.

"Bydd gwaith y Ganolfan Ymchwil, Dadansoddiad a Chyfathrebu Ffynhonnell Agored (OSCAR) yn ceisio datblygu dealltwriaeth newydd o sut gall yr heddlu ddefnyddio'r ffynonellau newydd hyn o wybodaeth ar draws eu swyddogaethau ymchwilio, gwybodaeth ac ymgysylltu, sy'n amrywio o wrthderfysgaeth i blismona cymunedol.

"Gyda'n partneriaid, mae hyn yn ymwneud â dylunio ymatebion plismona newydd ac arloesol i sicrhau nad ydym yn ceisio datrys problemau'r 21ain ganrif gyda modelau plismona'r 20fed ganrif."

Sicrhawyd cyllid ar gyfer y prosiect drwy Gronfa Gwybodaeth yr Heddlu (Police Knowledge Fund) gwerth £10M, a lansiwyd ar y cyd gan y Swyddfa Gartref, y Coleg Plismona a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) yn gynharach eleni.

Nod y gronfa yw annog cydweithio rhwng y byd academaidd a'r heddlu, a chynyddu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sgiliau a dulliau datrys problemau yn y maes plismona.

Y Brifysgol fydd yn cynnal OSCAR, a fydd yn gweithio gyda phartneriaid prosiect eraill allweddol, gan gynnwys Comisiynydd Heddlu a Throseddau  De Cymru, Prifysgol Surrey, Cyngor Caerdydd a Phartneriaeth Safer Sutton, mewn cydweithrediad â Rheolaeth Swyddogaethau Gwrthderfysgaeth Genedlaethol y DU gyfan.

Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddau De Cymru: "Rwy'n falch iawn o gael cefnogi'r cais llwyddiannus hwn am gyllid ar gyfer y Ganolfan newydd. Mae'r cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau agored eraill o gyfathrebu yn chwarae rôl fwyfwy pwysig wrth ddeall anghenion lleol a bygythiadau er mwyn plismona'r gymuned.

"Mae'r cais llwyddiannus hwn yn adeiladu ar waith arloesol rhwng Heddlu De Cymru a Phrifysgol Caerdydd, sef gwaith yr ydym wedi bod yn ei ddatblygu ers sawl blwyddyn bellach. Mae'n cydnabod pwysigrwydd technoleg newydd wrth allu cefnogi dulliau o blismona sy'n seiliedig ar dystiolaeth a beth sy'n gweithio."

Dywedodd Matt Dukes, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru: "Mae'r arian yn pwysleisio ymhellach y manteision yn sgîl annog a gwella gwaith cydweithredol rhwng y byd academaidd a'r heddlu. Rwy'n croesawu'r prosiect arwyddocaol hwn, a fydd yn cefnogi gwaith ymchwil a datblygu i alluogi'r heddlu i ddefnyddio technegau arloesol gyda'r dulliau plismona traddodiadol."

Rhannu’r stori hon