Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin astudiaethau Affricanaidd ar draws y byd

4 Medi 2018

Ambreena

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi dod yn Llywydd y Gymdeithas Astudiaethau Affricanaidd yn y Deyrnas Unedig (ASAUK).

Bydd yr Athro Ambreena Manji, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yn cychwyn yn ei swydd y mis hwn. Sefydlwyd y gymdeithas yn 1963, a’i chenhadaeth yw cefnogi ymchwil flaengar sy'n gysylltiedig ag Affrica. Mae ei rhaglen flynyddol o weithgareddau yn cynnwys cymrodoriaethau addysgu mewn prifysgolion yn Affrica a gweithdai ysgrifennu.

Rhan bwysig o waith ASAUK yw gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion Affricanaidd, cymdeithasau dysgedig a chyhoeddwyr. Mae ganddi gysylltiadau cryf â chymdeithasau Astudiaethau Affricanaidd yn America ac Ewrop. Mae ASAUK yn gweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Frenhinol Affricanaidd, ac yn hyrwyddo llawer o ddigwyddiadau ffilm a llenyddiaeth Affricanaidd pwysig sy’n cael eu cynnal yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r Athro Manji, sy’n gyd-sylfaenydd ar Ganolfan y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang, yn arbenigo mewn cyfraith tir a datblygu ac mae ei gwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar y materion hyn yn Affrica.

Mae'r Ganolfan yn cefnogi rhaglen ymchwil fywiog, sy’n cynnwys carfan ryngwladol o fyfyrwyr doethuriaeth. Mae'n gartref i glinig pro-bono arloesol yn y gyfraith, lle caiff myfyrwyr gyfle i weithio ar achosion cyfreithiol yn Tanzania a Kenya, yn ogystal â chyfle i gael lleoliadau wedi’u hariannu’n llawn yn y gyfraith gyda chyfreithwyr a'r farnwriaeth yn Nairobi a Delhi.

Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar ran ddeheuol y byd, ac yn cael ei llywio gan safbwyntiau ôl-wladychol a gwrth-wladychol, gan feithrin ymchwil o ansawdd uchel yn y gyfraith, cyfiawnder a globaleiddio. Mae'n ymrwymedig i ymgysylltu ag ysgolheigion deheuol ar draws y disgyblaethau, gan ddod â’u gwaith i amlygrwydd mewn cylchoedd academaidd a pholisi yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Wrth sôn am ei Llywyddiaeth, dywedodd yr Athro Manji: "Mae'n anrhydedd i ddilyn cyfres o bobl nodedig a fu’n astudio Affrica - yn haneswyr, gwyddonwyr gwleidyddol ac anthropolegwyr - drwy ddod yn Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y Deyrnas Unedig.  Mae hwn yn gyfnod pwysig iawn ar gyfer astudiaethau Affricanaidd yn y Deyrnas Unedig. Dylai ein hysgoloriaeth ofalus, sy’n gwbl ymgysylltiol, fod yn esiampl ddisglair. Ni fu ein gwerthoedd a’n harfer o feithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth, sy’n hunanfyfyrio’n feirniadol ac yn ymrwymo i roi sylw i batrymau hirsefydlog o gynhyrchu gwybodaeth annheg a’i lledaenu, erioed yn bwysicach."

Bydd Canolfan y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn croesawu cynhadledd ddwyflynyddol ASAUK ym mis Medi 2020.  Bydd y gynhadledd yn dod â mwy na 700 o gynrychiolwyr o 92 o wledydd i Brifysgol Caerdydd.