Caerdydd yn dod ag arbenigwyr canser o'r DU a Tsieina ynghyd
17 Gorffennaf 2015

Mae'r Gynhadledd Canser Ryngwladol "yn gyfle pwysig i adnewyddu ein hymdrechion i drechu canser," yn ôl Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Heddiw, bydd
gwyddonwyr canser byd-enwog o ledled y DU a Tsieina yn ymgynnull yn Amgueddfa
Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, i drafod strategaethau newydd yn y frwydr yn
erbyn canser.
Cynhelir Cynhadledd Canser Ryngwladol y Deyrnas Unedig–Tsieina gan Brifysgol
Caerdydd, ynghyd â Phrifysgol Peking, Prifysgol Capital Medical a Grŵp Yiling.
Bydd y digwyddiad deuddydd yn dwyn ynghyd siaradwyr a chynrychiolwyr nodedig o
Tsieina a'r DU i rannu arferion gorau mewn ymchwil canser clinigol, trosiadol a
sylfaenol. Gwahoddir arbenigwyr i gyflwyno darganfyddiadau gwyddonol i gyfnewid
gwybodaeth ac i drafod yr heriau presennol.
Hyd yma, mae cydweithio rhwng sefydliadau Tsieineaidd a Phrifysgol Caerdydd
wedi arwain at nifer o ddatblygiadau ymchwil pwysig.
Mae'r rhain yn cynnwys datblygu dull amgen o drin canser yr ysgyfaint; dull
newydd o reoli lledaeniad canser yr ofari a chanser y stumog; ac adnabod
arwyddion biolegol newydd i ragweld hynt tebygol y clefyd mewn cleifion sydd â
thiwmorau pitẅidol.
Bydd cynrychiolwyr yn cael eu croesawu gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru,
a'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Carwyn Jones: "Bydd y digwyddiad hwn yn dangos effaith gweithio
mewn partneriaeth ar draws ffiniau rhyngwladol. Mae'n gyfraniad gwerthfawr at y
berthynas rhwng y DU a Tsieina, ac mae hefyd yn gyswllt arall yn y berthynas
gynyddol gref a gweithgar sy'n datblygu rhwng Cymru a Tsieina, sef rhywbeth y
rhoddaf bwys mawr arno."
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, "Bydd y
gynhadledd hon yn gyfle pwysig i ni adnewyddu ein hymdrechion i drechu canser.
Bydd deall systemau gofal iechyd y ddwy wlad yn helpu i amlygu cryfderau a
nodi'r heriau allweddol, nawr ac yn y dyfodol.
"Ers y gynhadledd ddiwethaf a gynhaliwyd yn Beijing, rydym wedi gweld
llawer o lwyddiannau nodedig gan gynnwys canfyddiadau ymchwil ar y cyd, mentrau
cyfnewid myfyrwyr, a gwell cydweithio. Mae hon yn bartneriaeth bwysig ac rydym
yn ddiolchgar am gefnogaeth pawb sy'n gysylltiedig â hi."
Gyda lwc, bydd y gynhadledd ryngwladol yn gatalydd ac yn llwyfan i adeiladu ar
y rhaglen gyfnewid rhwng Caerdydd a Tsieina, ystyried ardaloedd newydd o waith
ymchwil i ganolbwyntio arnynt, a dangos technolegau arloesol newydd fel
technoleg diagnosis.
Mynegodd Cadeiryddion y gynhadledd, yr Athro Lu
(Llywydd Prifysgol Capital Medical) a'r Athro Ji (Llywydd Sefydliad ac Ysbyty
Canser Prifysgol Peking) eu gobeithion ar gyfer digwyddiad 2015.
Meddai'r Athro Lu: "Rwy'n gobeithio y gall y gynhadledd hon ddod yn
llwyfan academaidd ddylanwadol fyd-eang ar gyfer ymchwil oncoleg," ac
ychwanegodd yr Athro Ji, "Rwy'n gobeithio nad digwyddiad mawreddog ar
gyfer cyfnewid academaidd yn unig fydd hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn
gyfle gwych i rannu ein hathroniaeth a'n gwerthoedd, i gryfhau ymddiriedaeth ac
i ehangu ein partneriaeth ymhellach."
Dywedodd yr Athro Wen G. Jiang, Cyfarwyddwr Prosiect Ymchwil Feddygol
Gydweithrdol Caerdydd Tsieina: "Dyma gyfle go iawn i ddwyn ynghyd yr
arbenigwyr gorau ym maes canser. Byddwn yn defnyddio'r llwyfan rhyngwladol hwn
fel cyfle i adnewyddu a datblygu cysylltiadau ymchwil i drechu canser a
chryfhau'r ymdrech ryngwladol yn y frwydr yn erbyn canser."