Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth sgiliau cyfreithiol rhyngwladol a gynhelir gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

19 Mehefin 2018

Myfyrwyr Caerdydd, Charles Wilson a Sophie Rudd (canol), yn gynharach eleni gyda chystadleuwyr eraill yng Nghystadleuaeth Negodi Genedlaethol
Myfyrwyr Caerdydd, Charles Wilson a Sophie Rudd (canol), yn gynharach eleni gyda chystadleuwyr eraill yng Nghystadleuaeth Negodi Genedlaethol

Y mis hwn, cynhelir digwyddiad negodi blynyddol sy'n gweld myfyrwyr o Japan, Brasil, De Korea a Qatar yn cystadlu yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd.

Mae Rownd Derfynol y Gystadleuaeth Negodi Ryngwladol yn dwyn ynghyd myfyrwyr y gyfraith sy’n cystadlu mewn parau i negodi cytundebau gyda thimau o wledydd eraill. Mae myfyrwyr Caerdydd, Sophie Rudd a Charles Wilson, a enillodd gystadleuaeth Cymru a Lloegr yn gynharach eleni, bellach yn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol yn erbyn timau o 26 o wledydd gwahanol.

Y gystadleuaeth ryngwladol yw uchafbwynt calendr myfyrwyr y Gyfraith ac mae'n fraint i'r Ysgol ei chynnal eleni. Llynedd, cynhaliwyd y gystadleuaeth gan Brifysgol Oslo a blwyddyn nesaf bydd yn digwydd ym Mhrifysgol Tokyo.

Mae’r digwyddiad rhyngwladol yn dechrau eleni gyda dosbarth meistr ddydd Mawrth 26 Mehefin, wedi’i hwyluso’n rhannol gan y noddwr, y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (Centre for Effective Dispute Resolution neu CEDR).

Mae’r prif sesiynau yn cynnwys:

  • Trafod gwrthdaro, amrywiaeth a newid: Gwersi o Dde Affrica gyda Felicity Steadman, arbenigwr mewn datrys anghydfod
  • Trafodaethau Gwystl: Gwersi a ddysgwyd o fyd gwahanol gyda Philip Williams, cyn Bennaeth uned negodi gwystlon ac argyfyngau Scotland Yard
  • Negodiadau Brexit a Chymru gyda’r Athro Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Llywodraeth Cymru.

Bydd hefyd cyfres o seminarau i hogi sgiliau ymarferol, gan gynnwys:

To Ask or Not to Ask- and HOW to Ask - That’s the Question”; a,“Number me up, baby”: Why understanding maths is critical to negotiate.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal dros dair rownd sy'n dechrau ddydd Mercher 27 Mehefin. Bydd cyfle i westeion hefyd ymweld ag atyniadau amrywiol yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys Castell Caerffili a'r Big Pit. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi mewn cinio gwobrwyo ar y nos Sadwrn.

Dywedodd yr Athro Julie Price o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, "Rydym ni’n ddiolchgar iawn i'n prif noddwyr, CEDR, am eu cyfraniad pwysig wrth drefnu’r digwyddiad rhyngwladol gwych hwn, ac i’r cwmni cyfreithiol Latham & Watkins, Cymdeithas y Gyfraith ac Undeb Rygbi Cymru am ei gefnogi hefyd. Edrychwn ymlaen at estyn y croeso cynnes Cymreig enwog i’n gwesteion."

Meddai Matthew Parry, myfyriwr PhD a Chyfreithiwr/Eiriolwr Hawliau Uwch, sydd wedi trefnu'r digwyddiad, "Diolch i gydweithwyr ac arbenigwyr sydd wedi cytuno'n garedig i fod ar baneli beirniadu yn ystod cyfnod a fydd yn siŵr o fod yn un cystadleuol tu hwnt".

Dyma restr lawn o’r gwledydd sy’n cystadlu:

Awstralia; Brasil; Canada, Denmarc; Cymru a Lloegr; Estonia; Ffrainc; Yr Almaen; India; Indonesia; Iwerddon; Yr Eidal; Japan; De Korea; Seland Newydd; Norwy; Gogledd Iwerddon; Gwlad Pwyl; Qatar; Rwsia; Yr Alban; Singapore; Slofacia; Y Swistir; Yr Unol Daleithiau.

Hoffai Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ddymuno pob lwc i bawb sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth a gobeithio eu bod yn mwynhau eu hamser yma yng Nghaerdydd. I ddilyn hynt a helynt y gystadleuaeth, ewch i wefan y digwyddiad eleni a dilyn yr hashnod #futurenegotiators ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhannu’r stori hon