Ewch i’r prif gynnwys

Mapio'r cof

14 Mehefin 2018

Mapping memory

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi mapio'r ffordd rydym ni'n storio cof gofodol tymor hir, gan daflu goleuni ar sut mae ein hymennydd yn cofio ble mae pethau yn ein hamgylchedd.

Dywedodd yr Athro Frank Sengpiel, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Hyd yma, mae'r ffordd mae'r ymennydd yn storio gwybodaeth am ein hamgylchedd dros gyfnodau hir o amser wedi bod yn ddirgelwch.

"Mae ein hymchwil newydd yn datgelu patrwm o weithgaredd gan gelloedd yr ymennydd o fewn y cortecs retrosplenaidd pan fydd yr ymennydd yn storio ble mae pethau wedi'u lleoli.

"Nawr fod y celloedd hyn wedi'u nodi, efallai y bydd ymchwil yn y dyfodol yn dangos i ni sut yr amharir arnynt mewn Clefyd Alzheimer er enghraifft, neu sut y gallem ni eu haddasu'n ddethol i wella atgofion gofodol."

Mae ein cof gofodol yn gadael i ni gofnodi gwybodaeth am ein hamgylchedd a dod o hyd i'n ffordd o gwmpas.

Defnyddiodd y tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ddrysfeydd i brofi cof gofodol llygod, gan osod ysgytlaeth mefus mewn gwahanol rannau o'r ddrysfa.

Gosodwyd y llygod i grwydro drwy'r ddrysfa i ddod o hyd i'r ysgytlaeth mefus, ac yna sganiwyd eu hymennydd i weld beth oedd yn digwydd ar ôl iddynt ddysgu sut i gyfeiriadu o fewn y ddrysfa.

"Ar ôl i'r llygod archwilio'r ddrysfa, sganion ni eu hymennydd i edrych ar y gweithgaredd.

"Gwelsom ni fod rhan o'r ymennydd a elwir y cortecs retrosplenaidd yn dangos patrwm penodol o weithgaredd ar ôl i'r llygod ddysgu ble'r oedd yr ysgytlaeth mefus.

"Bedwar diwrnod ar hugain yn ddiweddarach, gosodom ni'r llygod yn y ddrysfa eto, a gwelsom fod rhai llygod yn well yn cofio ble'r oedd yr ysgytlaeth mefus wedi’i osod yn y ddrysfa.

"Roedd y llygod hyn yn dangos yr un patrymau penodol o weithgaredd yn y rhan hon o’r ymennydd," dywedodd yr Athro Sengpiel.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil