Ewch i’r prif gynnwys

Cyrraedd y brig o ran cyflogadwyedd

7 Gorffennaf 2015

Students outside the Glamorgan Building

Mae graddedigion Prifysgol Caerdydd yn fwy tebygol na graddedigion unrhyw brifysgol flaenllaw arall yng Ngrŵp Russell o fod mewn gwaith cyflogedig neu astudiaethau pellach cyn pen chwe mis ar ôl graddio, yn ôl ffigurau newydd

Mae ffigurau Ymadawyr Addysg Uwch diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos bod 95.5% o ymadawyr gradd gyntaf amser llawn 2013/14 wedi'u cyflogi neu'n astudio, sef 2,895 o gyfanswm o 3,035.

Mae hyn yn dangos cynnydd bach ers y llynedd (95.1%) ac yn golygu mai Prifysgol Caerdydd yw'r gorau o blith prifysgolion Grŵp Russell am gyflogadwyedd myfyrwyr – gan ennill y blaen ar brifysgolion blaenllaw'r DU fel Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae hefyd yn cadarnhau mai Prifysgol Caerdydd sydd â'r sgôr uchaf ymhlith holl brifysgolion Cymru.

Dywedodd yr Athro Patricia Price, y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Myfyrwyr: "Rwy'n falch iawn o'r ffigurau hyn.

"Maent yn cadarnhau ein safle fel y gorau ymhlith Grŵp Russell ac yng Nghymru o ran cyflogadwyedd ein myfyrwyr.

"Mae rhoi damcaniaeth ar waith yn ymarferol, a darparu profiad o'r byd gwaith yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.

"Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r Brifysgol o'r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol iddynt pan fyddant yn graddio.

"Mae cyngor ar gael ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cefnogaeth gyda cheisiadau swydd a thechnegau cyfweliad ar gael hefyd.

"O ganlyniad, rydym yn uchel ein parch ymhlith cyflogwyr ac mae gan ein graddedigion gofnod cyflogaeth rhagorol wrth i fyfyrwyr ddod o hyd i waith cyflogedig neu ymgymryd â hyfforddiant pellach."

Bydd HESA yn rhyddhau data mwy manwl o arolwg Ymadawyr Addysg Uwch 2013/14 yn ddiweddarach y mis hwn (23 Gorffennaf).

Rhannu’r stori hon