Ewch i’r prif gynnwys

Sgwrs gyda... Julia Gillard

7 Gorffennaf 2015

Julia Gillard

Cyn-Brif Weinidog Awstralia yn trin a thrafod gwleidyddiaeth a'i hen swydd

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi croesawu cyn-Brif Weinidog Awstralia, Julia Gillard, fel rhan o'r digwyddiadau 'Sgwrs gyda...' a gynhelir mewn partneriaeth gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Cafodd Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Rob Humphreys, 'Sgwrs gyda'r...' Anrhydeddus Julia Gillard, fu'n Brif Weinidog Awstralia ac Arweinydd Plaid Lafur Awstralia rhwng 2010 a 2013.  Ms Gillard oedd y fenyw gyntaf i fod yn y swyddi hyn.

Ganwyd Julia Gillard yn ne Cymru, a symudodd i Awstralia gyda'i theulu pan yn bedair oed. Yn ystod y cyfweliad, myfyriodd ar ei threftadaeth gan bwysleisio pwysigrwydd gwerthoedd Cymreig ei theulu yn ei magwraeth. Siaradodd am ddylanwad Joan Kirner, Prif Weinidog benywaidd gyntaf Talaith Victoria, ar ei safbwyntiau gwleidyddol, a dywedodd mai ei brwdfrydedd ynghylch creu system addysg fwy cyfartal a ysgogodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth.

Disgrifiodd Ms Gillard yr hinsawdd wleidyddol heriol yn y cyfnod cyn iddi gael ei hethol yn Brif Weinidog yn sgîl yr argyfwng ariannol byd-eang, a soniodd am y rhwystrau dilynol oedd yn gysylltiedig ag arwain llywodraeth glymblaid, ochr yn ochr â'r heriau i'w harweinyddiaeth o fewn ei phlaid ei hun.

Gan dynnu sylw at ei gwaith ym meysydd addysg a chydraddoldeb rhwng dynion a menywod tra'n Brif Weinidog, soniodd Ms Gillard hefyd am yr amgylchiadau a'i hysgogodd i roi ei haraith enwog am gasineb at fenywod yn 2012.

Parodd y cyfweliad am awr a chafwyd cwestiynau wedi hynny gan y gynulleidfa oedd yn cynnwys dros 70 o westeion.

Hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar y cyd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon